2015 Rhif 1733 (Cy. 236)

Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru

Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 10(1)(b) a (3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 16 Hydref 2015.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 20132

1

Mae Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 20132 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2, yn lle’r geiriau “mae Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector” rhodder “mae’r Federation for Industry Sector Skills & Standards (Rhif Cwmni: SC175918)”.

Julie JamesY Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, o dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 2013 drwy newid enw awdurdod ardystio Cymru o Gynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector i Ffederasiwn Sgiliau a Safonau’r Sector Diwydiant. Mae hyn yn cydnabod y newid yn enw cwmni cofrestredig y sefydliad hwn.