xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Cyfyngiadau ac eithriadau mewn perthynas â phob perfformiad trwyddedig

Cymhwyso’r Rhan hon

27.  Mae’r cyfyngiadau a’r eithriadau yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig.

Uchafswm nifer y diwrnodau olynol y caiff plentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion

28.  Ni chaniateir i blentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion ar fwy na chwe niwrnod yn olynol.

Seibiant mewn perfformiadau

29.—(1Ni chaniateir i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau, ac eithrio perfformiadau syrcas, ar uchafswm nifer y diwrnodau olynol a ganiateir gan reoliad 28 am gyfnod o wyth wythnos yn olynol, gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer yn ystod y pedwar diwrnod ar ddeg sy’n dilyn y perfformiad diwethaf.

(2Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw nifer y diwrnodau a bennir yn y drwydded i’r plentyn gael perfformio arnynt yn llai na thrigain.

Gwaith nos

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod trwyddedu ganiatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23.

(2Pan fo awdurdod trwyddedu yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23—

(a)rhaid i nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf gael ei gynnwys wrth gyfrifo uchafswm nifer yr oriau pan gaiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer wrth gydymffurfio â rheoliad 24;

(b)ni chaniateir i’r plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer arall hyd nes y bydd o leiaf un awr ar bymtheg wedi mynd heibio er diwedd rhan y plentyn yn y perfformiad; ac

(c)pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf ar ddau ddiwrnod yn olynol, ni chaiff yr awdurdod trwyddedu ganiatáu i’r plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad pellach yn yr oriau rhwng yr amserau hwyraf a’r rhai cynharaf yn ystod y saith niwrnod yn union ar ôl y ddau ddiwrnod hynny.

Disgresiwn yr hebryngwr

31.—(1Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu iddo gymryd rhan mewn perfformiad am gyfnod nad yw’n hwy nag un awr yn union ar ôl yr amser hwyraf a bennir mewn rheoliad 23 ar yr amod—

(a)na fydd cyfanswm nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer, gan gynnwys y cyfnod nad yw’n hwy nag un awr, yn fwy nag uchafswm nifer yr oriau a ganiateir o dan reoliad 24;

(b)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr na chaiff lles y plentyn ei niweidio; ac

(c)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr bod yr amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir wedi codi o dan amgylchiadau a oedd y tu allan i reolaeth y deiliad trwydded.

(2Pan fo’r hebryngwr yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir yn rheoliad 23, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod yr hebryngwr yn hysbysu’r awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol erbyn y diwrnod canlynol fan bellaf ac yn rhoi’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

(3Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu i un o’r seibiannau ar gyfer pryd bwyd, sy’n ofynnol o dan reoliad 25, gael ei leihau pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod—

(a)nad yw’r seibiant yn para llai na deng munud ar hugain; a

(b)nad eir dros uchafswm nifer yr oriau pryd y caiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 24.