xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
32. Rhaid i drwydded a roddir o dan adran 25 o Ddeddf 1933 gynnwys—
(a)enw’r plentyn;
(b)enw’r ceisydd;
(c)manylion yr ymrwymiad y mae’r plentyn yn mynd dramor i’w gyflawni;
(d)y dyddiad y rhoddir y drwydded a’r dyddiad y daw i ben;
(e)manylion unrhyw warant a roddir gan y ceisydd yn unol ag adran 25(6) o Ddeddf 1933;
(f)manylion unrhyw amodau y bernir eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoi’r drwydded; ac
(g)llofnod y person sy’n rhoi’r drwydded.
33. Pan fo trwydded o dan adran 25 o Ddeddf 1933 wedi ei rhoi, ei hadnewyddu neu ei hamrywio, y manylion y mae’n rhaid i’r ynad heddwch eu hanfon at Weinidogion Cymru er mwyn eu trosglwyddo i’r priod swyddog consylaidd yw—
(a)enw a chyfeiriad y plentyn;
(b)dyddiad geni, man geni a chenedligrwydd y plentyn;
(c)enw a chyfeiriad y ceisydd am y drwydded;
(d)enw a chyfeiriad rhiant y plentyn;
(e)manylion yr ymrwymiad, gan gynnwys ym mha le ac am ba mor hir y mae’r plentyn i gymryd rhan;
(f)copi o’r contract cyflogaeth neu ddogfen arall sy’n dangos ar ba delerau ac amodau y mae’r plentyn wedi ei gymryd ymlaen; ac
(g)copi o’r drwydded.