RHAN 5Cyfyngiadau ac eithriadau mewn perthynas â phob perfformiad trwyddedig

Disgresiwn yr hebryngwr

31.—(1Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu iddo gymryd rhan mewn perfformiad am gyfnod nad yw’n hwy nag un awr yn union ar ôl yr amser hwyraf a bennir mewn rheoliad 23 ar yr amod—

(a)na fydd cyfanswm nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer, gan gynnwys y cyfnod nad yw’n hwy nag un awr, yn fwy nag uchafswm nifer yr oriau a ganiateir o dan reoliad 24;

(b)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr na chaiff lles y plentyn ei niweidio; ac

(c)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr bod yr amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir wedi codi o dan amgylchiadau a oedd y tu allan i reolaeth y deiliad trwydded.

(2Pan fo’r hebryngwr yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir yn rheoliad 23, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod yr hebryngwr yn hysbysu’r awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol erbyn y diwrnod canlynol fan bellaf ac yn rhoi’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

(3Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu i un o’r seibiannau ar gyfer pryd bwyd, sy’n ofynnol o dan reoliad 25, gael ei leihau pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod—

(a)nad yw’r seibiant yn para llai na deng munud ar hugain; a

(b)nad eir dros uchafswm nifer yr oriau pryd y caiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 24.