Rheoliad 3
Rheoliad 4
1. Enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r plentyn y gofynnir am drwydded ar ei gyfer.
2. Enw a chyfeiriad yr ysgol y mae’r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd neu, os nad yw’r plentyn yn mynychu ysgol, enw a chyfeiriad athro preifat neu athrawes breifat y plentyn.
3. Manylion pob trwydded mewn perthynas â’r plentyn a roddwyd yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrio’r awdurdod trwyddedu y mae’r cais yn cael ei wneud iddo, gan ddatgan ym mhob achos—
(a)enw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg;
(b)y dyddiad pan roddwyd y drwydded; ac
(c)dyddiadau a natur y perfformiadau neu’r gweithgareddau.
4. Manylion pob cais mewn perthynas â’r plentyn am drwydded a wrthodwyd gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrio’r awdurdod trwyddedu y mae’r cais yn cael ei wneud iddo, yn y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos—
(a)enw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg; a
(b)y rhesymau (os ydynt yn hysbys) dros wrthod rhoi trwydded.
5. Manylion unrhyw berfformiadau nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar eu cyfer, yn rhinwedd adran 37(3) o Ddeddf 1963, ac y cymerodd y plentyn ran ynddynt yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos—
(a)dyddiad y perfformiad;
(b)nifer y diwrnodau y cynhaliwyd y perfformiad;
(c)teitl y perfformiad; a
(d)enw a chyfeiriad y person a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad y cymerodd y plentyn ran ynddo.
6. Y dyddiadau (os oes rhai) pan oedd y plentyn yn absennol o’r ysgol yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais oherwydd ei fod wedi cymryd rhan mewn perfformiad neu weithgaredd.
7. Swm unrhyw arian a enillwyd gan y plentyn yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan a oedd yr arian a enillwyd yn arian mewn cysylltiad â pherfformiadau neu weithgareddau y rhoddwyd trwydded ar eu cyfer neu berfformiad nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar ei gyfer.
8. Enw, teitl a chyfeiriad y ceisydd.
9. Enw a natur y perfformiadau neu weithgareddau y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy (er enghraifft, rhai theatraidd, ffilmio, chwaraeon, modelu), a disgrifiad o’r hyn y byddai’n ofynnol i’r plentyn ei wneud o ganlyniad i gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgareddau.
10. Y man lle y cynhelir y gweithgareddau, y perfformiadau a’r ymarferion y gofynnir am drwydded ar eu cyfer, gan gynnwys unrhyw gyfnodau yn y fan a’r lle.
11. Dyddiadau gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer, neu nifer y diwrnodau, a’r cyfnod pryd, y gofynnir i’r plentyn gael cymryd rhan mewn gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion.
12. Parhad neu hyd amser cyfan disgwyliedig y gweithgareddau neu berfformiadau (gan gynnwys unrhyw ymarferion) y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy a bras amcan o hyd ymddangosiad y plentyn mewn perfformiadau neu weithgareddau o’r fath.
13. Faint o waith nos (os oes gwaith nos) y gwneir cais am gymeradwyaeth ar ei gyfer oddi wrth yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30, gan ddatgan—
(a)bras amcan o nifer y diwrnodau;
(b)bras amcan o’i hyd ar bob diwrnod; ac
(c)y rheswm y mae’n rhaid i’r perfformiad fod ar ffurf gwaith nos.
14. Y symiau sydd i’w hennill gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiadau neu’r gweithgareddau y gofynnir am y drwydded mewn cysylltiad â hwy, ac enw, cyfeiriad a disgrifiad y person y mae’r symiau i’w talu iddo, os na fyddant yn cael eu talu i’r plentyn o dan sylw.
15. Pan ofynnir am drwydded mewn cysylltiad â pherfformiad, y trefniadau arfaethedig ar gyfer unrhyw ymarferion cyn y perfformiad cyntaf y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan mewn cysylltiad â phob ymarfer—
(a)y dyddiad;
(b)y man lle y mae i’w gynnal; a
(c)bras amcan o’r amser a’r hyd.
16. Y diwrnodau neu’r hanner diwrnodau y gofynnir am ganiatâd i’r plentyn fod yn absennol o’r ysgol arnynt i’w alluogi i gymryd rhan mewn perfformiadau (gan gynnwys ymarferion) neu weithgareddau y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer.
17. Y trefniadau arfaethedig (os oes rhai) o dan reoliad 13 ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan—
(a)pan fo’r addysg i’w darparu gan ysgol, enw a chyfeiriad yr ysgol sydd i’w mynychu; neu
(b)pan fo’r addysg i’w darparu ac eithrio drwy gyfrwng ysgol—
(i)enw, cyfeiriad a chymhwyster yr athro preifat arfaethedig neu’r athrawes breifat arfaethedig;
(ii)y man lle y caiff y plentyn ei addysgu;
(iii)y cwrs astudio arfaethedig;
(iv)nifer y plant eraill sydd i’w haddysgu gan yr athro preifat neu’r athrawes breifat yr un pryd â’r plentyn y mae’r cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn; a
(v)a yw’r plentyn i gael y cyfanswm o ran addysg sy’n unol â rheoliad 15(3)(d).
18. Enw a chyfeiriad yr hebryngwr arfaethedig, neu pan na fo’n ofynnol cael unrhyw hebryngwr o’r fath yn rhinwedd rheoliad 17(2), enw a chyfeiriad y rhiant neu’r athro neu’r athrawes a fydd â gofal dros y plentyn.
19. Enw’r awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg (os oes un), a gymeradwyodd gynt benodiad yr hebryngwr at ddibenion trwydded.
20. Nifer y plant sydd i fod yng ngofal yr hebryngwr yn ystod yr amser y bydd â gofal dros y plentyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn.
21. Cyfeiriad unrhyw lety lle y bydd y plentyn yn byw os yw’n wahanol i’r man lle y byddai’r plentyn yn byw fel arfer, nifer y plant eraill, a manylion am yr hebryngwr (os oes un), a fydd yn byw yn yr un llety.
22. Bras amcan o hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio yn teithio, a’r trefniadau (os oes rhai) ar gyfer cludiant—
(a)i’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd; a
(b)o’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd.
23. Enw unrhyw awdurdod lleol arall neu, yn yr Alban, unrhyw awdurdod addysg arall y mae cais wedi ei wneud iddo i blentyn arall gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau y mae’r cais yn ymwneud ag ef (os nad yw’n hysbys adeg gwneud y cais, mae i’w ddarparu pan fo’n hysbys).
24. At ddibenion rheoliad 4(1)(d), y ddogfennaeth sy’n ofynnol yw—
(a)copi o dystysgrif geni’r plentyn;
(b)dau ffotograff union yr un fath o’r plentyn a dynnwyd yn ystod y chwe mis cyn dyddiad y cais;
(c)copi o’r contract, y contract drafft neu ddogfennau eraill sy’n cynnwys manylion y cytundeb sy’n rheoleiddio ymddangosiad y plentyn yn y perfformiadau, neu’n rheoleiddio’r gweithgaredd, y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer neu ar ei gyfer; a
(d)y polisi (neu bolisïau) amddiffyn plant ac unrhyw bolisïau eraill a gymhwysir gan y ceisydd.
Rheoliad 11
1. Y drwydded.
2. Y manylion canlynol mewn cysylltiad â phob diwrnod y mae’r plentyn yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer—
(a)y dyddiad;
(b)amser cyrraedd y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer;
(c)amser ymadael â’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer;
(d)amserau pob cyfnod pryd y cymerodd y plentyn ran mewn perfformiad neu ymarfer;
(e)amser pob ysbaid gorffwys;
(f)amser pob ysbaid pryd bwyd; ac
(g)amserau unrhyw waith nos a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30.
3. Pan fo trefniadau wedi eu gwneud i’r plentyn gael ei addysgu gan athro preifat neu athrawes breifat, dyddiad a hyd pob gwers a’r pwnc a addysgir.
4. Manylion yr anafiadau a’r afiechydon (os oes rhai) y bu’r plentyn yn dioddef ganddynt yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer, gan gynnwys y dyddiadau pan ddigwyddodd yr anafiadau, gan ddatgan a wnaeth yr anafiadau neu’r afiechydon hynny atal y plentyn rhag bod yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer.
5. Dyddiadau’r seibiannau mewn perfformiadau sy’n ofynnol o dan reoliad 29(1).
6. Swm yr holl arian a enillwyd gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiad ac enwau, cyfeiriadau a disgrifiad y personau y talwyd y symiau hynny iddynt.
7. Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi trwydded yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid ymdrin â’r symiau a enillir gan y plentyn mewn modd a gymeradwyir gan yr awdurdod, cyfanswm y symiau a’r modd yr ymdriniwyd â hwy.
8. Y cofnodion a bennir yn Rhan 1 fel petai’r rhan honno’n ymwneud â’r gweithgaredd y rhoddwyd y drwydded ar ei gyfer.