2015 Rhif 1757 (Cy. 242)

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 25(2) a 25(8) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 19331 ac adrannau 37(3), 37(4), 37(5), 37(6), 39(3) a 39(5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 19632, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 30 Hydref 2015.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—

a

rhoi trwyddedau mewn cysylltiad â phlant sy’n preswylio yng Nghymru gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan fo’n ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;

b

rhoi trwyddedau mewn cysylltiad â phlant nad ydynt yn preswylio ym Mhrydain Fawr gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan fo’r ceisydd am y drwydded yn preswylio neu pan fo ganddo fan busnes o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, pan fo hynny’n ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;

c

perfformiadau yng Nghymru, nad yw’n ofynnol cael unrhyw drwydded ar eu cyfer yn rhinwedd adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963;

d

rhoi trwyddedau gan ynadon heddwch yng Nghymru o dan adran 25 o Ddeddf 1933 i alluogi plant i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau dramor i wneud elw.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod addysg” yr ystyr a roddir i “education authority” gan adran 135(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 19804;

  • ystyr “awdurdod lletyol” (“host authority”) yw’r awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg y mae perfformiad neu weithgaredd yn digwydd yn ei ardal;

  • ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw’r awdurdod lleol y mae’r cais am drwydded wedi ei wneud iddo ac sy’n rhoi’r drwydded;

  • ystyr “Deddf 1933” (“the 1933 Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933;

  • ystyr “Deddf 1963” (“the 1963 Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963;

  • ystyr “deiliad trwydded” (“licence holder”) yw’r person y mae trwydded wedi ei rhoi iddo gan yr awdurdod trwyddedu;

  • ystyr “diwrnod” (“day”) yw cyfnod o bedair awr ar hugain gan ddechrau a dod i ben am hanner nos ac, at ddibenion rheoliad 30 a pharagraff 13 o Ran 2 o Atodlen 2, rhaid barnu bod unrhyw berfformiad sy’n digwydd ar ôl hanner nos a chyn yr awr gynharaf a ganiateir fel y’i diffinnir yn rheoliad 23 wedi digwydd cyn hanner nos;

  • ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw cymryd rhan mewn chwaraeon, neu weithio fel model o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 37(1)(b) o Ddeddf 1963;

  • mae i “hebryngwr” (“chaperone”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 17(1);

  • ystyr “oedran gadael ysgol” (“school leaving age”) yw’r oedran pan fo person yn peidio â bod yn berson o oedran ysgol gorfodol yn unol ag adran 8(3) o Ddeddf Addysg 19965;

  • ystyr “rhiant” (“parent”) yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant, fel y diffinnir “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 19896, dros y plentyn o dan sylw;

  • ystyr “wythnos” (“week”) yw cyfnod o saith niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf y mae’r drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer yn digwydd neu unrhyw seithfed diwrnod wedi hynny; ac

  • ystyr “ymarfer” (“rehearsal”), ac eithrio at ddibenion paragraff 15 o Ran 2 o Atodlen 2, yw unrhyw ymarfer ar gyfer, neu baratoad ar gyfer, perfformiad, a hwnnw’n ymarfer sy’n digwydd ar ddiwrnod y perfformiad neu yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda’r perfformiad cyntaf ac yn dod i ben gyda’r perfformiad olaf.

Dirymiadau3

Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu mewn cysylltiad â Chymru.

RHAN 2Y gofynion, o ran dogfennaeth, mewn perthynas â phob trwydded

Cais am drwydded4

1

Rhaid i gais am drwydded—

a

cael ei wneud yn ysgrifenedig gan—

i

y person sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad chwaraeon neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n bwriadu cymryd y plentyn ymlaen fel model; neu

ii

y person sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad y mae’r plentyn i gymryd rhan ynddo;

b

cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2;

c

cael ei lofnodi gan y ceisydd a rhiant i’r plentyn; a

d

cynnwys gydag ef y ddogfennaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2.

2

Caiff yr awdurdod trwyddedu wrthod rhoi trwydded os na ddaw’r cais i law o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf, y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, i ddigwydd.

Amodau trwydded

5

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu osod unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau—

a

bod y plentyn yn ffit i gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd;

b

bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau iechyd a llesiant y plentyn; ac

c

bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau na fydd addysg y plentyn yn dioddef.

6

Pan fo’r ceisydd yn gofyn am drwydded i blentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad neu ymarfer penodol, ond nad yw’n gallu pennu’r dyddiadau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer hwnnw adeg gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod trwyddedu, os yw’n penderfynu rhoi’r drwydded, osod amod mai dim ond am nifer penodedig o ddiwrnodau o fewn cyfnod o chwe mis y caiff y plentyn gymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer penodol hwnnw.

7

1

Pan fo’r awdurdod trwyddedu’n barnu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd yn annigonol i’w alluogi i benderfynu p’un a fydd yn dyroddi trwydded neu’n dyroddi trwydded yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol i’w alluogi i wneud penderfyniad o’r fath.

2

Yn benodol, caiff yr awdurdod trwyddedu—

a

gofyn bod y plentyn yn cael ei archwilio’n feddygol;

b

cyf-weld unrhyw athro preifat arfaethedig neu athrawes breifat arfaethedig;

c

cyf-weld y ceisydd, y plentyn, rhieni’r plentyn, neu’r hebryngwr arfaethedig, fel y bo’n briodol.

Ffurf trwydded8

1

Rhaid i drwydded gynnwys—

a

enw’r plentyn;

b

enw rhieni’r plentyn;

c

enw’r ceisydd;

d

enwau, amserau, natur a lleoliad y gweithgaredd neu’r perfformiad (a lleoliad unrhyw ymarfer os yw’n wahanol) y mae’r drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer;

e

dyddiadau’r gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer, neu yn lle’r dyddiadau, nifer y diwrnodau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer, a’r cyfnod, nad yw’n hwy na chwe mis, pan gaiff y gweithgareddau, y perfformiadau neu’r ymarferion ddigwydd yn unol â rheoliad 6;

f

unrhyw amodau, y mae’r awdurdod trwyddedu yn barnu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoi’r drwydded; ac

g

datganiad bod y drwydded yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r amodau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i ffotograff o’r plentyn fod wedi ei atodi i’r drwydded.

Y manylion y mae’n rhaid i awdurdod trwyddedu eu darparu mewn cysylltiad â thrwydded

9

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu anfon copi o’r drwydded at y rhiant a lofnododd y ffurflen gais.

10

Pan fo perfformiad neu weithgaredd i ddigwydd yn ardal awdurdod lletyol ac eithrio’r awdurdod trwyddedu, yn unol ag adran 39(3) o Ddeddf 1963, rhaid i’r awdurdod trwyddedu anfon at yr awdurdod lletyol hwnnw gopi o’r ffurflen gais, y drwydded, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol a gafodd o dan reoliad 7 a phan fo’r awdurdod trwyddedu’n cymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg y plentyn, manylion y diwrnodau yn ystod cyfnod y drwydded pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r plentyn sy’n ddarostyngedig i’r drwydded fynychu’r ysgol pe bai’r plentyn hwnnw’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.

Y cofnodion sydd i’w cadw gan y deiliad trwydded o dan adran 39(5) o Ddeddf 196311

Am chwe mis o ddyddiad y perfformiad neu’r gweithgaredd diwethaf y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef, rhaid i’r deiliad trwydded gadw’r cofnodion a bennir yn—

a

Rhan 1 o Atodlen 3, pan fo’r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â pherfformiad; neu

b

Rhan 2 o Atodlen 3, pan fo’r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â gweithgaredd.

Dangos trwydded12

Rhaid i’r deiliad trwydded, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos y drwydded ar bob adeg resymol yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf ac yn dod i ben gyda’r un olaf y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef, yn y man lle y cynhelir y perfformiad (neu unrhyw fan lle y cynhelir yr ymarfer), neu’r man lle y mae’r gweithgaredd y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef yn digwydd, i swyddog awdurdodedig yr awdurdod lletyol neu i gwnstabl.

Polisi amddiffyn plant13

Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau y glynir wrth y polisi neu’r polisïau a amgaeir gyda’r cais.

Llythyr oddi wrth y pennaeth14

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaniateir i awdurdod trwyddedu roi trwydded mewn cysylltiad â phlentyn sy’n mynychu ysgol oni bai bod yr awdurdod —

a

wedi cael llythyr oddi wrth bennaeth yr ysgol honno sy’n ymdrin ag unrhyw fater sy’n berthnasol i’r broses o ystyried adran 37(4) o Ddeddf 1963 gan yr awdurdod; a

b

wedi ystyried y llythyr hwnnw.

2

Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r awdurdod wedi ei fodloni nad yw wedi bod yn ymarferol cyflwyno llythyr.

RHAN 3Gofynion cyffredinol sy’n gymwys i bob perfformiad neu weithgaredd trwyddedig

Addysg15

1

Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu roi trwydded—

a

oni chaiff ei fodloni na fyddai addysg y plentyn yn dioddef drwy iddo gymryd rhan yn y perfformiadau neu’r gweithgareddau;

b

onid yw wedi cymeradwyo’r trefniadau (os oes rhai) ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo; ac

c

onid yw wedi cymeradwyo’r man lle y mae’r plentyn i gael addysg, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y man hwnnw’n addas ar gyfer addysg y plentyn.

2

Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod unrhyw drefniadau a gymeradwyir gan yr awdurdod trwyddedu ar gyfer addysg y plentyn yn cael eu cyflawni.

3

Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg plentyn gan athro preifat neu athrawes breifat oni chaiff ei fodloni—

a

ar y cwrs astudio arfaethedig ar gyfer y plentyn;

b

y darperir y cwrs astudio arfaethedig gan athro preifat addas neu athrawes breifat addas;

c

na fydd yr athro preifat neu’r athrawes breifat yn addysgu mwy na chwe phlentyn (gan gynnwys y plentyn o dan sylw) ar unrhyw adeg, neu ddeuddeg o blant os yw’r holl blant sy’n cael eu haddysgu wedi cyrraedd safon debyg yn y pwnc sy’n cael ei addysgu i’r plentyn o dan sylw; a

d

y bydd y plentyn, yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo, yn cael addysg am gyfnodau sydd, o’u hagregu, yn dod i gyfanswm nad yw’n llai na thair awr ar bob diwrnod y byddai’n ofynnol i’r plentyn fynychu’r ysgol pe bai’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.

4

Bernir bod gofynion paragraff (3)(d) wedi eu bodloni os yw’r awdurdod trwyddedu wedi ei fodloni y bydd y plentyn yn cael addysg—

a

am ddim llai na chwe awr yr wythnos;

b

yn ystod pob cyfnod cyflawn o bedair wythnos, neu os oes cyfnod o lai na phedair wythnos, yn ystod y cyfnod hwnnw, am gyfnodau nad ydynt yn llai na’r cyfnodau addysg agregedig sy’n ofynnol gan baragraff (3)(d) mewn cysylltiad â’r cyfnod;

c

ar ddiwrnodau pan fyddai’n ofynnol i’r plentyn fynychu’r ysgol pe bai’n ddisgybl sy’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu; a

d

am ddim mwy na phum awr ar unrhyw ddiwrnod o’r fath.

5

At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw unrhyw gyfnod addysg yn cynnwys—

a

unrhyw gyfnod sy’n digwydd ac eithrio yn ystod yr oriau y caniateir i blentyn fod yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 23; a

b

unrhyw gyfnod sy’n llai na deng munud ar hugain.

Enillion16

Caiff yr awdurdod trwyddedu gynnwys amod yn y drwydded i unrhyw un neu rai neu’r cyfan o’r symiau a enillir gan y plentyn am gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd gael ei drin neu eu trin mewn modd penodol gan y deiliad trwydded.

Hebryngwyr17

1

Rhaid i awdurdod trwyddedu gymeradwyo person i fod yn hebryngwr i—

a

gofalu am y plentyn a’i reoli; a

b

diogelu, cynnal a hyrwyddo llesiant y plentyn,

tra bo’r plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad, neu ymarfer neu tra bo’r plentyn yn byw yn rhywle ac eithrio’r man lle y byddai fel arall yn byw yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw’r plentyn yn cael ei ofalu amdano gan riant y plentyn neu athro neu athrawes a fyddai fel arfer yn darparu addysg y plentyn.

3

Y nifer uchaf o blant y caiff hebryngwr ofalu amdanynt ar unrhyw un adeg yw—

a

deuddeg; neu

b

os athro preifat neu athrawes breifat y plentyn o dan sylw yw’r person a gymeradwywyd i weithredu fel hebryngwr, tri.

4

Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo person fel hebryngwr oni chaiff ei fodloni bod y person—

a

wedi ymgymryd â hyfforddiant amddiffyn plant;

b

yn addas a chymwys i arfer gofal priodol dros, a rheolaeth briodol ar, blentyn o oedran a rhyw’r plentyn o dan sylw; ac

c

yn un na fydd yn cael ei atal rhag cyflawni dyletswyddau tuag at y plentyn gan ddyletswyddau tuag at blant eraill.

5

Pan fo plentyn yn dioddef gan unrhyw anaf neu afiechyd tra bo o dan ofal yr hebryngwr, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod rhiant y plentyn a enwir yn y ffurflen gais, yr awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol yn cael eu hysbysu ar unwaith am yr anaf neu’r afiechyd hwnnw.

6

Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn credu ei bod yn briodol, caniateir iddo roi trwydded yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r deiliad trwydded ddarparu i’r hebryngwr gopi cyfredol o’r sgript ar gyfer y cynhyrchiad o dan sylw.

7

Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (6) fod wedi ei nodi yn y drwydded.

Llety18

1

Pan fo’n ofynnol i blentyn fyw yn rhywle ac eithrio’r man lle y byddai’n byw fel arfer yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo oherwydd ei fod yn cymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd y cafwyd y drwydded ar ei gyfer, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo’r man hwnnw fel un sy’n addas i’r plentyn hwnnw.

2

Caniateir i gymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu fod yn ddarostyngedig i unrhyw un neu rai o’r amodau a ganlyn—

a

y darperir cludiant i’r plentyn rhwng y man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd, a’r llety;

b

bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer prydau bwyd i’r plentyn; ac

c

unrhyw amod arall a fyddai’n ffafriol i les y plentyn mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.

Y man lle y cynhelir y perfformiad a’r man lle y cynhelir yr ymarfer19

1

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw fan lle y bydd y plentyn yn perfformio, yn ymarfer neu’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd.

2

Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd oni chaiff ei fodloni, o roi sylw i oedran y plentyn a natur, amser a hyd y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd—

a

bod trefniadau addas wedi eu gwneud—

i

ar gyfer darparu prydau bwyd i’r plentyn;

ii

i’r plentyn ymwisgo ar gyfer y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd; a

iii

ar gyfer amser gorffwys a hamdden y plentyn, pan nad yw’n cymryd rhan mewn perfformiad, ymarfer neu weithgaredd;

b

bod gan y man hwnnw doiledau a chyfleusterau ymolchi sy’n addas a digonol; ac

c

y caiff y plentyn ei amddiffyn yn ddigonol rhag tywydd garw.

3

Caiff yr awdurdod trwyddedu roi ei gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol.

4

Ym mharagraff (2)(a)(ii), nid yw trefniadau i blentyn, sydd wedi cyrraedd pum mlwydd oed, ymwisgo ar gyfer perfformiad, ymarfer neu weithgaredd yn addas onid yw’n cael ymwisgo gyda phlant o’r un rhyw ag ef yn unig.

Trefniadau ac amser ar gyfer teithio20

1

Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod trefniadau addas (o roi sylw i oedran y plentyn) yn cael eu gwneud i fynd â’r plentyn i’w gartref neu i unrhyw gyrchfan arall ar ôl y perfformiad neu’r ymarfer olaf, neu derfyn unrhyw weithgaredd ar unrhyw ddiwrnod.

2

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

a

rhoi sylw, pan fo’n rhoi ei gymeradwyaeth, i hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer; a

b

cynnwys unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r amserau cynharaf a hwyraf y caiff y plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

RHAN 4Cyfyngiadau mewn perthynas â phob perfformiad

Cymhwyso’r Rhan hon21

Mae’r gofynion yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig ac i bob perfformiad, sydd wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael trwydded, o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

Cyflogaeth22

Ni chaniateir i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiad gael ei gyflogi mewn unrhyw gyflogaeth arall ar ddiwrnod y perfformiad hwnnw na’r diwrnod wedyn.

Yr amserau cynharaf a hwyraf yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer23

1

Mae Tabl 1 yn nodi’r amserau cynharaf a hwyraf y caiff plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

2

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os y man lle y mae’r plentyn fel arfer yn byw neu’n cael ei addysg yw’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

Tabl 1

Oedran y plentyn

Yr amser cynharaf

Yr amser hwyraf

O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed

07:00

22:00

O 5 oed tan oedran gadael ysgol

07:00

23:00

Presenoldeb mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer a’r oriau perfformio24

1

Mae Tabl 2 yn nodi uchafswm nifer yr oriau y caiff plentyn fod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, y caiff berfformio neu ymarfer mewn un niwrnod neu berfformio neu ymarfer yn barhaus.

2

Wrth gyfrifo nifer yr oriau ar unrhyw ddiwrnod y mae’r plentyn yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, rhaid ystyried unrhyw gyfnodau addysg sy’n ofynnol i gydymffurfio â threfniadau a gymeradwyir o dan reoliad 15, hyd yn oed os yw’r addysg honno’n cael ei darparu yn rhywle ac eithrio’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

Tabl 2

Oedran

y plentyn

Uchafswm nifer yr oriau mewn un niwrnod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer

Uchafswm nifer cyfan yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod

Uchafswm nifer parhaus yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod

O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed

5

2

0.5

O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 9 oed

8

3

2.5

O 9 oed tan oedran gadael ysgol

9.5

5

2.5

Seibiannau ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r plentyn yn perfformio neu’n ymarfer25

1

Pan fo plentyn o dan bum mlwydd oed yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer—

a

rhaid i unrhyw seibiannau bara am gyfnod o bymtheng munud o leiaf, ac eithrio bod rhaid, pan fo plentyn yn bresennol am bedair neu fwy o oriau yn olynol, i unrhyw seibiannau o’r fath gynnwys o leiaf un seibiant o ddeugain munud a phump a ddefnyddir at ddiben pryd bwyd; a

b

rhaid i unrhyw seibiant gael ei ddefnyddio at ddibenion prydau bwyd, gorffwys, addysg neu hamdden.

2

Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am fwy na phedair, ond am lai nag wyth awr yn olynol, rhaid iddo gael o leiaf:

a

un seibiant sy’n para am ddeugain munud a phump o leiaf ar gyfer pryd bwyd; a

b

un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.

3

Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am wyth awr neu fwy yn olynol, rhaid iddo gael:

a

y seibiannau sy’n ofynnol o dan baragraff (2); a

b

o leiaf un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i blentyn gael seibiant sy’n para am awr a hanner o leiaf rhwng pryd y mae’n cymryd rhan mewn perfformiadau olynol pan fo, ar yr un diwrnod—

a

yn perfformio’r un rhan neu’n cymryd rhan perfformiwr arall mewn mwy nag un enghraifft o’r un perfformiad gan gynnwys ymarferion, sy’n dod o fewn adran 37(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1963, y mae trwydded wedi ei chael ar eu cyfer;

b

yn cymryd rhan mewn perfformiadau o dan drwyddedau gwahanol a roddwyd mewn cysylltiad â’r plentyn; neu

c

yn cymryd rhan mewn perfformiad y mae trwydded wedi ei chael ar ei gyfer ac mewn perfformiad nad yw’n ofynnol cael trwydded ar ei gyfer o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

5

Pan fo’r perfformiad neu’r ymarfer cynharach yn para llai nag un awr, ac

a

bod y perfformiad neu’r ymarfer canlynol yn digwydd yn yr un man perfformio neu ymarfer; neu

b

nad oes angen unrhyw amser ar gyfer teithio rhwng y perfformiad neu’r ymarfer cynharach a’r un olynol,

caniateir i’r seibiant rhwng y perfformiadau (neu’r ymarferion) hynny gael ei ostwng i isafswm o ddeugain munud a phump.

Isafswm nifer y seibiannau dros nos26

Yn ddarostyngedig i reoliad 30, rhaid i blentyn gael seibiant dros nos sy’n para deuddeg awr o leiaf rhwng ei bresenoldeb yn y man perfformio neu ymarfer.

RHAN 5Cyfyngiadau ac eithriadau mewn perthynas â phob perfformiad trwyddedig

Cymhwyso’r Rhan hon27

Mae’r cyfyngiadau a’r eithriadau yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig.

Uchafswm nifer y diwrnodau olynol y caiff plentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion28

Ni chaniateir i blentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion ar fwy na chwe niwrnod yn olynol.

Seibiant mewn perfformiadau29

1

Ni chaniateir i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau, ac eithrio perfformiadau syrcas, ar uchafswm nifer y diwrnodau olynol a ganiateir gan reoliad 28 am gyfnod o wyth wythnos yn olynol, gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer yn ystod y pedwar diwrnod ar ddeg sy’n dilyn y perfformiad diwethaf.

2

Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw nifer y diwrnodau a bennir yn y drwydded i’r plentyn gael perfformio arnynt yn llai na thrigain.

Gwaith nos30

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod trwyddedu ganiatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23.

2

Pan fo awdurdod trwyddedu yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23—

a

rhaid i nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf gael ei gynnwys wrth gyfrifo uchafswm nifer yr oriau pan gaiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer wrth gydymffurfio â rheoliad 24;

b

ni chaniateir i’r plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer arall hyd nes y bydd o leiaf un awr ar bymtheg wedi mynd heibio er diwedd rhan y plentyn yn y perfformiad; ac

c

pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf ar ddau ddiwrnod yn olynol, ni chaiff yr awdurdod trwyddedu ganiatáu i’r plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad pellach yn yr oriau rhwng yr amserau hwyraf a’r rhai cynharaf yn ystod y saith niwrnod yn union ar ôl y ddau ddiwrnod hynny.

Disgresiwn yr hebryngwr31

1

Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu iddo gymryd rhan mewn perfformiad am gyfnod nad yw’n hwy nag un awr yn union ar ôl yr amser hwyraf a bennir mewn rheoliad 23 ar yr amod—

a

na fydd cyfanswm nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer, gan gynnwys y cyfnod nad yw’n hwy nag un awr, yn fwy nag uchafswm nifer yr oriau a ganiateir o dan reoliad 24;

b

ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr na chaiff lles y plentyn ei niweidio; ac

c

ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr bod yr amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir wedi codi o dan amgylchiadau a oedd y tu allan i reolaeth y deiliad trwydded.

2

Pan fo’r hebryngwr yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir yn rheoliad 23, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod yr hebryngwr yn hysbysu’r awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol erbyn y diwrnod canlynol fan bellaf ac yn rhoi’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

3

Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu i un o’r seibiannau ar gyfer pryd bwyd, sy’n ofynnol o dan reoliad 25, gael ei leihau pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod—

a

nad yw’r seibiant yn para llai na deng munud ar hugain; a

b

nad eir dros uchafswm nifer yr oriau pryd y caiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 24.

RHAN 6Trwyddedau i berfformio a chymryd rhan mewn gweithgareddau dramor

Ffurf trwydded32

Rhaid i drwydded a roddir o dan adran 25 o Ddeddf 1933 gynnwys—

a

enw’r plentyn;

b

enw’r ceisydd;

c

manylion yr ymrwymiad y mae’r plentyn yn mynd dramor i’w gyflawni;

d

y dyddiad y rhoddir y drwydded a’r dyddiad y daw i ben;

e

manylion unrhyw warant a roddir gan y ceisydd yn unol ag adran 25(6) o Ddeddf 1933;

f

manylion unrhyw amodau y bernir eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoi’r drwydded; ac

g

llofnod y person sy’n rhoi’r drwydded.

Yr wybodaeth sydd i’w darparu i swyddog consylaidd33

Pan fo trwydded o dan adran 25 o Ddeddf 1933 wedi ei rhoi, ei hadnewyddu neu ei hamrywio, y manylion y mae’n rhaid i’r ynad heddwch eu hanfon at Weinidogion Cymru er mwyn eu trosglwyddo i’r priod swyddog consylaidd yw—

a

enw a chyfeiriad y plentyn;

b

dyddiad geni, man geni a chenedligrwydd y plentyn;

c

enw a chyfeiriad y ceisydd am y drwydded;

d

enw a chyfeiriad rhiant y plentyn;

e

manylion yr ymrwymiad, gan gynnwys ym mha le ac am ba mor hir y mae’r plentyn i gymryd rhan;

f

copi o’r contract cyflogaeth neu ddogfen arall sy’n dangos ar ba delerau ac amodau y mae’r plentyn wedi ei gymryd ymlaen; ac

g

copi o’r drwydded.

Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENNI

ATODLEN 1Dirymiadau

Rheoliad 3

Tabl 3

Y Rheoliadau

Y Cyfeirnod

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968

1968/1728

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygiadau Amrywiol) 1998

1998/1678

Rheoliadau Plant (Perfformiadau) (Diwygio) (Cymru) 2007

2007/736

ATODLEN 2Yr Wybodaeth sy’n Ofynnol ar gyfer Cais am Drwydded

Rheoliad 4

RHAN 1Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan y ceisydd mewn perthynas â’r plentyn

1

Enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r plentyn y gofynnir am drwydded ar ei gyfer.

2

Enw a chyfeiriad yr ysgol y mae’r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd neu, os nad yw’r plentyn yn mynychu ysgol, enw a chyfeiriad athro preifat neu athrawes breifat y plentyn.

3

Manylion pob trwydded mewn perthynas â’r plentyn a roddwyd yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrio’r awdurdod trwyddedu y mae’r cais yn cael ei wneud iddo, gan ddatgan ym mhob achos—

a

enw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg;

b

y dyddiad pan roddwyd y drwydded; ac

c

dyddiadau a natur y perfformiadau neu’r gweithgareddau.

4

Manylion pob cais mewn perthynas â’r plentyn am drwydded a wrthodwyd gan unrhyw awdurdod lleol neu, yn yr Alban, gan unrhyw awdurdod addysg, ac eithrio’r awdurdod trwyddedu y mae’r cais yn cael ei wneud iddo, yn y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos—

a

enw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg; a

b

y rhesymau (os ydynt yn hysbys) dros wrthod rhoi trwydded.

5

Manylion unrhyw berfformiadau nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar eu cyfer, yn rhinwedd adran 37(3) o Ddeddf 1963, ac y cymerodd y plentyn ran ynddynt yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan ym mhob achos—

a

dyddiad y perfformiad;

b

nifer y diwrnodau y cynhaliwyd y perfformiad;

c

teitl y perfformiad; a

d

enw a chyfeiriad y person a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad y cymerodd y plentyn ran ynddo.

6

Y dyddiadau (os oes rhai) pan oedd y plentyn yn absennol o’r ysgol yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais oherwydd ei fod wedi cymryd rhan mewn perfformiad neu weithgaredd.

7

Swm unrhyw arian a enillwyd gan y plentyn yn ystod y deuddeng mis cyn dyddiad y cais, gan ddatgan a oedd yr arian a enillwyd yn arian mewn cysylltiad â pherfformiadau neu weithgareddau y rhoddwyd trwydded ar eu cyfer neu berfformiad nad oedd yn ofynnol cael trwydded ar ei gyfer.

RHAN 2Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan y ceisydd am y perfformiadau neu’r gweithgareddau

8

Enw, teitl a chyfeiriad y ceisydd.

9

Enw a natur y perfformiadau neu weithgareddau y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy (er enghraifft, rhai theatraidd, ffilmio, chwaraeon, modelu), a disgrifiad o’r hyn y byddai’n ofynnol i’r plentyn ei wneud o ganlyniad i gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgareddau.

10

Y man lle y cynhelir y gweithgareddau, y perfformiadau a’r ymarferion y gofynnir am drwydded ar eu cyfer, gan gynnwys unrhyw gyfnodau yn y fan a’r lle.

11

Dyddiadau gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer, neu nifer y diwrnodau, a’r cyfnod pryd, y gofynnir i’r plentyn gael cymryd rhan mewn gweithgareddau, perfformiadau neu ymarferion.

12

Parhad neu hyd amser cyfan disgwyliedig y gweithgareddau neu berfformiadau (gan gynnwys unrhyw ymarferion) y gofynnir am drwydded mewn cysylltiad â hwy a bras amcan o hyd ymddangosiad y plentyn mewn perfformiadau neu weithgareddau o’r fath.

13

Faint o waith nos (os oes gwaith nos) y gwneir cais am gymeradwyaeth ar ei gyfer oddi wrth yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30, gan ddatgan—

a

bras amcan o nifer y diwrnodau;

b

bras amcan o’i hyd ar bob diwrnod; ac

c

y rheswm y mae’n rhaid i’r perfformiad fod ar ffurf gwaith nos.

14

Y symiau sydd i’w hennill gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiadau neu’r gweithgareddau y gofynnir am y drwydded mewn cysylltiad â hwy, ac enw, cyfeiriad a disgrifiad y person y mae’r symiau i’w talu iddo, os na fyddant yn cael eu talu i’r plentyn o dan sylw.

15

Pan ofynnir am drwydded mewn cysylltiad â pherfformiad, y trefniadau arfaethedig ar gyfer unrhyw ymarferion cyn y perfformiad cyntaf y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan mewn cysylltiad â phob ymarfer—

a

y dyddiad;

b

y man lle y mae i’w gynnal; a

c

bras amcan o’r amser a’r hyd.

16

Y diwrnodau neu’r hanner diwrnodau y gofynnir am ganiatâd i’r plentyn fod yn absennol o’r ysgol arnynt i’w alluogi i gymryd rhan mewn perfformiadau (gan gynnwys ymarferion) neu weithgareddau y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer.

17

Y trefniadau arfaethedig (os oes rhai) o dan reoliad 13 ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, gan ddatgan—

a

pan fo’r addysg i’w darparu gan ysgol, enw a chyfeiriad yr ysgol sydd i’w mynychu; neu

b

pan fo’r addysg i’w darparu ac eithrio drwy gyfrwng ysgol—

i

enw, cyfeiriad a chymhwyster yr athro preifat arfaethedig neu’r athrawes breifat arfaethedig;

ii

y man lle y caiff y plentyn ei addysgu;

iii

y cwrs astudio arfaethedig;

iv

nifer y plant eraill sydd i’w haddysgu gan yr athro preifat neu’r athrawes breifat yr un pryd â’r plentyn y mae’r cais yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn; a

v

a yw’r plentyn i gael y cyfanswm o ran addysg sy’n unol â rheoliad 15(3)(d).

18

Enw a chyfeiriad yr hebryngwr arfaethedig, neu pan na fo’n ofynnol cael unrhyw hebryngwr o’r fath yn rhinwedd rheoliad 17(2), enw a chyfeiriad y rhiant neu’r athro neu’r athrawes a fydd â gofal dros y plentyn.

19

Enw’r awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg (os oes un), a gymeradwyodd gynt benodiad yr hebryngwr at ddibenion trwydded.

20

Nifer y plant sydd i fod yng ngofal yr hebryngwr yn ystod yr amser y bydd â gofal dros y plentyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef, a rhyw ac oedran pob plentyn.

21

Cyfeiriad unrhyw lety lle y bydd y plentyn yn byw os yw’n wahanol i’r man lle y byddai’r plentyn yn byw fel arfer, nifer y plant eraill, a manylion am yr hebryngwr (os oes un), a fydd yn byw yn yr un llety.

22

Bras amcan o hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio yn teithio, a’r trefniadau (os oes rhai) ar gyfer cludiant—

a

i’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd; a

b

o’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd.

23

Enw unrhyw awdurdod lleol arall neu, yn yr Alban, unrhyw awdurdod addysg arall y mae cais wedi ei wneud iddo i blentyn arall gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau y mae’r cais yn ymwneud ag ef (os nad yw’n hysbys adeg gwneud y cais, mae i’w ddarparu pan fo’n hysbys).

RHAN 3Y ddogfennaeth sy’n ofynnol

24

At ddibenion rheoliad 4(1)(d), y ddogfennaeth sy’n ofynnol yw—

a

copi o dystysgrif geni’r plentyn;

b

dau ffotograff union yr un fath o’r plentyn a dynnwyd yn ystod y chwe mis cyn dyddiad y cais;

c

copi o’r contract, y contract drafft neu ddogfennau eraill sy’n cynnwys manylion y cytundeb sy’n rheoleiddio ymddangosiad y plentyn yn y perfformiadau, neu’n rheoleiddio’r gweithgaredd, y gofynnir am y drwydded ar eu cyfer neu ar ei gyfer; a

d

y polisi (neu bolisïau) amddiffyn plant ac unrhyw bolisïau eraill a gymhwysir gan y ceisydd.

ATODLEN 3Y Cofnodion sydd i’w Cadw gan y Deiliad Trwydded

Rheoliad 11

RHAN 1Y drwydded a roddir mewn cysylltiad â pherfformiad

1

Y drwydded.

2

Y manylion canlynol mewn cysylltiad â phob diwrnod y mae’r plentyn yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer—

a

y dyddiad;

b

amser cyrraedd y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer;

c

amser ymadael â’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer;

d

amserau pob cyfnod pryd y cymerodd y plentyn ran mewn perfformiad neu ymarfer;

e

amser pob ysbaid gorffwys;

f

amser pob ysbaid pryd bwyd; ac

g

amserau unrhyw waith nos a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu o dan reoliad 30.

3

Pan fo trefniadau wedi eu gwneud i’r plentyn gael ei addysgu gan athro preifat neu athrawes breifat, dyddiad a hyd pob gwers a’r pwnc a addysgir.

4

Manylion yr anafiadau a’r afiechydon (os oes rhai) y bu’r plentyn yn dioddef ganddynt yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer, gan gynnwys y dyddiadau pan ddigwyddodd yr anafiadau, gan ddatgan a wnaeth yr anafiadau neu’r afiechydon hynny atal y plentyn rhag bod yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r man lle y cynhelir yr ymarfer.

5

Dyddiadau’r seibiannau mewn perfformiadau sy’n ofynnol o dan reoliad 29(1).

6

Swm yr holl arian a enillwyd gan y plentyn drwy gymryd rhan yn y perfformiad ac enwau, cyfeiriadau a disgrifiad y personau y talwyd y symiau hynny iddynt.

7

Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn rhoi trwydded yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid ymdrin â’r symiau a enillir gan y plentyn mewn modd a gymeradwyir gan yr awdurdod, cyfanswm y symiau a’r modd yr ymdriniwyd â hwy.

RHAN 2Trwydded a roddir mewn cysylltiad â gweithgaredd

8

Y cofnodion a bennir yn Rhan 1 fel petai’r rhan honno’n ymwneud â’r gweithgaredd y rhoddwyd y drwydded ar ei gyfer.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhannau 2 i 5 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion mewn perthynas â cheisiadau a wneir i awdurdodau lleol yng Nghymru am drwyddedau ar gyfer perfformiadau a gweithgareddau a roddir o dan adran 37 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (“Deddf 1963”) a’r amodau sy’n gymwys i’r trwyddedau hynny, yn ogystal â gofynion sy’n gymwys i berfformiadau nad yw’n ofynnol cael unrhyw drwydded ar eu cyfer yn rhinwedd adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn nodi gofynion mewn cysylltiad â thrwyddedau a roddir o dan adran 25 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (“Deddf 1933”) ar gyfer plant sy’n perfformio neu sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau dramor i wneud elw.

Mae rheoliad 3 yn dirymu Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968, a nifer o setiau o reoliadau diwygio, mewn cysylltiad â Chymru.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ofynion, o ran dogfennaeth, sy’n ymwneud â phob trwydded, pwerau awdurdodau lleol i osod amodau ar drwydded, cofnodion y mae’n rhaid iddynt gael eu cadw gan y deiliad trwydded a gofynion mewn cysylltiad â phryd y mae’n rhaid iddo ddangos y drwydded.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn nodi gofynion cyffredinol mewn cysylltiad â phob perfformiad a gweithgaredd trwyddedig. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau ynghylch llesiant y plentyn, yn enwedig mewn perthynas â’u haddysgu, eu goruchwylio a’u lletya yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn nodi gofynion sy’n gymwys i berfformiadau trwyddedig ac i berfformiadau y byddai’n ofynnol cael trwydded ar eu cyfer, oni bai am yr esemptiad o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiadau mewn perthynas ag oriau gweithio a seibiannau.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn nodi cyfyngiadau ac eithriadau pellach i’r rheolau yn Rhan 4, sy’n gymwys i berfformiadau trwyddedig yn unig. Mae’r rhain yn ymwneud ymhellach ag oriau gweithio a seibiannau ac yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a hebryngwyr arfer disgresiwn o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion mewn perthynas â chynnwys trwyddedau a roddir o dan adran 25 o Ddeddf 1933 (yn caniatáu i blant berfformio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau dramor i wneud elw), a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru o dan adran 25(8) o’r Ddeddf honno, er mwyn ei throsglwyddo i’r priod swyddog consylaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.