Deunydd perthnasol a eithrir2
1
Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraff (4).
2
At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o’r meinweoedd cyfansawdd a ganlyn (“meinweoedd cyfansawdd a eithrir”) yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
a
ymennydd;
b
madruddyn y cefn;
c
wyneb;
d
trwyn;
e
ceg;
f
braich;
g
rhan uchaf y fraich;
h
elin;
i
llaw;
j
bys;
k
coes;
l
morddwyd;
m
rhan isaf y goes;
n
troed; neu
o
bys troed.
3
At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
a
ofari;
b
croth;
c
pidyn;
d
caill;
e
ffetws;
f
brych;
g
llinyn bogail; neu
h
embryo (y tu mewn i’r corff).
4
Nid yw’r cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n rhan o unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
a
llygad;
b
meinweoedd nerfol;
c
rhydweli;
d
asgwrn;
e
cyhyr;
f
tendon; neu
g
croen,
i’r graddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer trawsblannu unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir.