xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1786 (Cy. 249) (C. 110)

Dŵr, Cymru

Gorchymyn Deddf Dŵr 2014 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015

Gwnaed

7 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adrannau 91(3) a 94(3) o Ddeddf Dŵr 2014(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2014 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dŵr 2014.

Y diwrnod penodedig

2.  1 Tachwedd 2015 yw’r diwrnod penodedig i adran 41 (anghydfodau ynghylch darparu carthffosydd cyhoeddus: mangreoedd yng Nghymru) o’r Ddeddf ddod i rym.

Darpariaeth drosiannol

3.  Er gwaethaf erthygl 2, bydd adran 101A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(2) fel y mae mewn grym yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym yn parhau’n effeithiol o ran unrhyw anghydfod a gyfeiriwyd at yr asiantaeth briodol(3) o dan y ddarpariaeth honno cyn i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru ac mae’n dwyn i rym adran 41 o Ddeddf Dŵr 2014 (“Deddf 2014”).

Mae adran 41 (anghydfodau ynghylch darparu carthffosydd cyhoeddus: mangreoedd yng Nghymru) o Ddeddf 2014 yn gwneud diwygiadau i adran 101A (dyletswydd bellach i ddarparu carthffosydd) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”) er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch penderfynu ar anghydfodau ynghylch darparu carthffos gyhoeddus yng Nghymru.

Cyn i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“CANC”) oedd yn gyfrifol yng Nghymru am benderfynu ar anghydfodau. Mae adran 41 o’r Ddeddf yn rhoi’r rôl hon i Weinidogion Cymru, neu i berson a benodir ganddynt, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i CANC gynghori’r partïon a’r person sy’n penderfynu ar yr anghydfod, os gofynnir iddo wneud hynny.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu bod CANC yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfynu ar anghydfodau a gyfeirir ar gyfer penderfynu arnynt o dan adran 101A o’r Ddeddf 1991 cyn i adran 41 o Ddeddf 2014 ddod i rym.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym neu cânt eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif yr O.S.
Adran 1 (yn rhannol)1 Medi 20152015/773
1 Medi 20152015/1469
Adran 4 (yn rhannol)1 Medi 20152015/773
1 Medi 20152015/1469
Adran 8 (yn rhannol)6 Ebrill 20152015/773
Adran 14 (yn rhannol)6 Ebrill 20152015/773
Adran 16 (yn rhannol)15 Gorffennaf 20152015/1469
Adran 16 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Tachwedd 20152015/1469
Adran 17 (yn rhannol)6 Ebrill 20152015/773
15 Gorffennaf 20152015/1469
Adran 23 (yn rhannol)1 Ionawr 20152014/3320
Adran 23 (yn rhannol)6 Ebrill 20152015/773
Adran 246 Ebrill 20152015/773
Adran 29 (yn rhannol)1 Ionawr 20152014/3320
15 Gorffennaf 20152015/1469
Adran 30 (yn rhannol)1 Ionawr 20152014/3320
15 Gorffennaf 20152015/1469
Adran 38 (yn rhannol)1 Ionawr 20152014/3320
Adran 38 (yn rhannol)6 Ebrill 20152015/773
Adran 40(1)14 Gorffennaf 20142014/1823
Adrannau 42 i 476 Ebrill 20152015/773
Adran 496 Ebrill 20152015/773
Adrannau 51 i 526 Ebrill 20152015/773
Adran 53 (yn rhannol)6 Ebrill 20152015/773
Adran 551 Ionawr 20152014/3320
Adran 56 (yn rhannol)1 Ionawr 20152014/3320
15 Gorffennaf 20152015/1469
1 Medi 20152015/1469
1 Tachwedd 20152015/1469
Adran 591 Hydref 20142014/1823
Adrannau 64 i 681 Ionawr 20152014/3320
Adran 69 (at bob diben sy’n weddill)1 Ionawr 20152014/3320
Adran 82 (yn rhannol)1 Ionawr 20152014/3320
Adrannau 83 i 841 Ionawr 20152014/3320
Atodlen 2 (yn rhannol)1 Medi 20152015/773
1 Medi 20152015/1469
Atodlen 4 (yn rhannol)1 Medi 20152015/773
1 Medi 20152015/1469
Atodlen 7 (yn rhannol)1 Ionawr 20152014/3320
15 Gorffennaf 20152015/1469
1 Medi 20152015/1469
1 Tachwedd 20152015/1469
Atodlen 914 Gorffennaf 20142014/1823
(1)

2014 p.21. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol o dan adran 94(3) o’r Ddeddf honno at y dibenion hyn yn rhinwedd y tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 12 i’r Ddeddf.

(3)

Cyn cychwyn adran 41 o’r Ddeddf, “yr asiantaeth briodol” at ddibenion adran 101A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, mewn perthynas ag anghydfodau rhwng ymgymerwyr carthffosiaeth a pherchnogion neu ddeiliaid eiddo yng Nghymru, yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru.