Offerynnau Statudol Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
16 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Hydref 2015
Yn dod i rym
10 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(6), 9(1), 98(1), (1A), (2) a (3) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1)(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gyda chymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn ofynnol gan adran 98(6) o’r Ddeddf honno(3).
2002 p. 38. Mewnosododd adran 1 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 is-adran (1A) yn adran 98 o Ddeddf 2002 fel y gall rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth i hwyluso cyswllt rhwng personau sydd â pherthynas ragnodedig â pherson a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 a pherthnasau geni’r person mabwysiedig.
Trosglwyddwyd y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Mae adran 98(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn ofynnol ar gyfer darpariaeth a wneir mewn rheoliadau sy’n awdurdodi’r Cofrestrydd Cyffredinol i ddatgelu gwybodaeth neu i godi ffioedd rhagnodedig. Trosglwyddwyd swyddogaeth cymeradwyo Canghellor y Trysorlys o dan adran 98(6) o Ddeddf 2002 i’r Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd O.S. 2008/678.