RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Dehongli

I22

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “special educational needs” a “special educational provision” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 19962;

  • ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am C;

  • ystyr “awdurdod yr ardal” (“area authority”) yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr3 ar gyfer yr ardal y lleolir C ynddi, neu y mae C i’w leoli ynddi, os yw’n wahanol i’r awdurdod cyfrifol;

  • ystyr “C” (“C”) yw plentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol4;

  • mae i “canolfan hyfforddi ddiogel” yr ystyr a roddir i “secure training centre” yn adran 43(1)(d) o Ddeddf Carchardai 19525;

  • mae i “cartref plant diogel” yr ystyr a roddir i “secure children’s home” yn adran 102(11) o Ddeddf 20126;

  • mae i “cofnod achos” (“case record”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 63;

  • ystyr “Cydgysylltydd Addysg PDG” (“LAC Education Co-ordinator”) yw’r person a ddynodwyd gan yr awdurdod cyfrifol i gydgysylltu cynlluniau addysg personol a rhoi sylw i anghenion addysgol plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal o fewn ardal yr awdurdod cyfrifol;

  • ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw’r person sy’n gyfrifol am ganolfan hyfforddi ddiogel;

  • ystyr “cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc” (“lead director for children and young people’s services”) yw swyddog yr awdurdod cyfrifol a benodwyd at ddibenion adran 27 o Ddeddf Plant 20047;

  • ystyr “cynghorydd personol” (“personal adviser”) yw’r cynghorydd personol a drefnwyd ar gyfer C yn unol ag adran 106 o Ddeddf 2014;

  • mae i “cymeradwyaeth dros dro” (“temporary approval”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(1);

  • mae i “cynllun addysg personol” (“personal education plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(b)(ii);

  • ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw’r cynllun, a baratoir ac a gynhelir yn unol ag adran 83 o Ddeddf 2014, ar gyfer darparu gofal a chymorth i C yn y dyfodol;

  • mae i “cynllun iechyd” (“health plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(1)(b)(i);

  • mae i “cynllun lleoli” (“placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1)(a) ac mae’n ffurfio rhan o gynllun gofal a chymorth C;

  • mae i “cynllun lleoli dan gadwad” (“detention placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 58;

  • mae i “cynllun llwybr” (“pathway plan”) yr ystyr a roddir yn adran 107 o Ddeddf 2014;

  • ystyr “darparwr gofal iechyd” (“health care provider”), yn achos lleoliad yng Nghymru, yw bwrdd iechyd lleol8, neu, yn achos lleoliad mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol9 ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol10, ac mewn unrhyw achos arall, y corff cyfatebol yn y wlad y lleolir neu y bwriedir lleoli C ynddi;

  • ystyr “darparwr gwasanaeth maethu” (“fostering service provider”) yw—

    1. a

      darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “darparydd gwasanaeth maethu” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Maethu11, a

    2. b

      darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “fostering service provider” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 201112;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 198913;

  • ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 201214;

  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201415;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—

    1. a

      dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

    2. b

      dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu

    3. c

      gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 197116;

  • ystyr “F” (“F”) yw person a gymeradwywyd fel rhiant maeth awdurdod lleol17 ac y bwriedir lleoli C gydag ef neu, yn ôl y digwydd, y lleolir C gydag ef;

  • ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref plant a benodir yn unol â gofynion Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 200218 sydd â chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant addysgol plentyn, a chysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;

  • ystyr “lleoliad” (“placement”) yw

    1. a

      pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol i C fyw gyda P yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, neu

    2. b

      trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer lletya a chynnal C mewn unrhyw un o’r ffyrdd a bennir yn adran 81(6) o Ddeddf 2014;

  • ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw’r person sy’n gyfrifol am sefydliad troseddwyr ifanc;

  • ystyr “P” (“P”) yw—

    1. a

      person sy’n rhiant C;

    2. b

      person nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; neu

    3. c

      pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os oedd gorchymyn trefniadau plentyn19, a oedd yn rheoleiddio trefniadau byw C, mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwid yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel person yr oedd C i fyw gydag ef20;

  • ystyr “person cysylltiedig” (“connected person”) yw perthynas21, cyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig ag C;

  • ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

    1. a

      P, os yw C i fyw, neu yn byw, gyda P;

    2. b

      F, os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, gydag F;

    3. c

      os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, y person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 200022 mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw; neu

    4. d

      os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, y person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety;

  • mae i “proses asesu gyflawn” (“full assessment process”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(2)(d);

  • ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag C yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol o dan adran 97 o Ddeddf 2014;

  • mae i “remánd i lety awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “remand to local authority accommodation” yn adran 91(3) o Ddeddf 201223;

  • mae i “remánd i lety cadw ieuenctid” yr ystyr a roddir i “remand to youth detention accommodation” yn adran 91(4) o Ddeddf 2012;

  • ystyr “y Rheoliadau Maethu” (“the Fostering Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 200324;

  • ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 200025 fel rheolwr cartref plant diogel;

  • ystyr “SAA” (“IRO”) yw’r swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos C o dan adran 99(1) o Ddeddf 2014;

  • mae i “sefydliad troseddwyr ifanc” yr ystyr a roddir i “young offenders institution” yn adran 43(1)(aa) o Ddeddf Carchardai 195226;

  • ystyr “swyddog enwebedig” (“nominated officer”) yw’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol neu uwch-swyddog arall yr awdurdod cyfrifol a enwebwyd mewn ysgrifen gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i weithredu ar ei ran at ddibenion y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol gyda chyfranogaeth bwrdd iechyd lleol yn unol ag adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201027;

  • ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig28 sydd—

    1. a

      yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200629, neu

    2. b

      yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;

  • ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practitioner”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr deintyddion o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 198430 sydd—

    1. a

      yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200631, neu

    2. b

      yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio’n unol â’r Ddeddf honno; ac

  • ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor”) yw’r person annibynnol a benodir i fod yn ymwelydd ar gyfer C o dan adran 98 o Ddeddf 2014.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr unrhyw gyfeiriad i’r perwyl fod C “dan gadwad” (“detained”) yw fod C, ar ôl ei gollfarnu am drosedd, wedi—

a

ei gadw mewn carchar32 neu mewn llety cadw ieuenctid, neu

b

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

c

yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad wedi ei osod ar C fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol, ac

yn union cyn ei gadw, neu osod gofyniad preswylio o’r fath arno, roedd C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw ddogfen neu gofnod arall yn cynnwys unrhyw ddogfen neu gofnod o’r fath a gedwir neu a ddarperir mewn ffurf sydd ar gael yn hwylus, ac yn cynnwys copïau o ddogfennau gwreiddiol yn ogystal â dulliau electronig o gofnodi gwybodaeth.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I33

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200233 ac eithrio pan fo’r plentyn yn dod o fewn rheoliad 56.