- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
62.—(1) Yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir ym mharagraff (3).
(2) Yr amgylchiadau yw—
(a)pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol,
(b)pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi trefnu i leoli C mewn cyfres o leoliadau byrdymor gyda’r un person neu yn yr un llety (“seibiannau byr”), ac
(c)trefniant wedi ei wneud fel—
(i)na fwriedir i unrhyw un lleoliad barhau am fwy na 4 wythnos,
(ii)bod C, ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal rhiant C neu berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a
(iii)na fydd cyfanswm y seibiannau byr mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn fwy na 120 o ddiwrnodau.
(3) Yr addasiadau yw—
(a)nid yw rheoliadau 5 a 10 yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r cynllun gofal a chymorth nodi’r trefniadau sydd wedi eu gwneud i ddiwallu anghenion C gan roi sylw penodol i’r canlynol—
(i)iechyd a datblygiad emosiynol ac ymddygiadol C, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw anabledd(1) a allai fod gan C,
(ii)hyrwyddo cyswllt rhwng C a’i rieni ac unrhyw berson arall nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, yn ystod unrhyw gyfnod pan leolir C,
(iii)diddordebau hamdden C, a
(iv)hyrwyddo cyflawniad addysgol C,
a rhaid i’r cynllun gynnwys enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig C, a’r wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 3, pan fo’n briodol,
(b)nid yw rheoliadau 7, 14 a 63(2)(b) yn gymwys,
(c)nid yw rheoliad 31(2) yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C ar ddiwrnodau pan fo C yn y lleoliad mewn gwirionedd, a hynny fesul ysbeidiau rheolaidd sydd i’w cytuno gyda’r SAA a rhieni C (neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C) a’u cofnodi yn y cynllun gofal a chymorth cyn dechrau’r lleoliad cyntaf, a beth bynnag—
(i)rhaid i’r ymweliad cyntaf ddigwydd o fewn y 7 diwrnod lleoli cyntaf ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny, a
(ii)rhaid i ymweliadau dilynol ddigwydd fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis, am gyhyd ag y bo’r seibiannau byr yn parhau,
(d)nid yw rheoliad 39 yn gymwys, ond yn hytrach—
(i)rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 3 mis ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, a
(ii)rhaid cynnal yr ail adolygiad ac adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.
63.—(1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sefydlu a chynnal cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer C (“cofnod achos C”), os nad oes un yn bodoli eisoes.
(2) Rhaid i’r cofnod achos gynnwys—
(a)cynllun gofal a chymorth C, gan gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed i’r cynllun gofal a chymorth ac unrhyw gynlluniau dilynol,
(b)adroddiadau a gafwyd o dan reoliad 7,
(c)unrhyw ddogfen arall a grëwyd neu a ystyriwyd yn rhan o unrhyw asesiad o anghenion C neu unrhyw adolygiad o achos C,
(d)unrhyw orchymyn llys yn ymwneud ag C,
(e)manylion unrhyw drefniadau sydd wedi eu gwneud gan yr awdurdod cyfrifol gydag unrhyw awdurdod lleol arall neu gydag asiantaeth faethu annibynnol o dan reoliad 29 ac Atodlen 6, neu gyda darparwr gwasanaethau gwaith cymdeithasol, y cyflawnir oddi tanynt unrhyw rai o swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag C, gan yr awdurdod lleol hwnnw neu’r asiantaeth faethu annibynnol honno neu’r darparwr gwasanaethau gwaith cymdeithasol hwnnw.
64.—(1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddal ei afael ar gofnod achos C naill ai—
(a)tan bymthegfed pen-blwydd a thrigain C, neu
(b)os bydd farw C cyn cyrraedd 18 oed, am y cyfnod o bymtheng mlynedd sy’n dechrau gyda dyddiad marwolaeth C.
(2) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y cedwir cofnod achos C yn ddiogel, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau y trinnir yr wybodaeth sydd ynddo yn gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i’r canlynol—
(a)unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wneir o dan neu yn rhinwedd statud, y caniateir cael neu roi mynediad i gofnod neu wybodaeth o’r fath oddi tani,
(b)unrhyw orchymyn llys y caniateir cael neu roi mynediad i gofnod neu wybodaeth o’r fath oddi tano.
65. Mae’r Rheoliadau a nodir yn Atodlen 11 i’r Rheoliadau hyn wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.
Diffinnir “anabl” ac “anabledd” yn unol ag adran 3 o Ddeddf 2014.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: