Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) pennod yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rhagolygol
16.—(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a’r awdurdod cyfrifol, gan weithredu yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, yn bwriadu lleoli C gyda P.
(2) Nid oes dim yn y Bennod hon sy’n ei gwneud yn ofynnol fod yr awdurdod cyfrifol yn symud C o ofal P os yw C yn byw gyda P cyn bo penderfyniad lleoli’n cael ei wneud ynghylch C.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 16 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
17. Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli C gyda P os byddai gwneud hynny’n anghydnaws ag unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 17 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
18. Cyn penderfynu lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)asesu addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—
(i)y llety arfaethedig, a
(ii)yr holl bersonau eraill 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,
(b)cymryd i ystyriaeth yr holl faterion a bennir yn Atodlen 4(1) wrth wneud ei asesiad,
(c)ystyried a fydd y lleoliad, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth, a
(d)adolygu achos C yn unol â Rhan 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 18 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
19.—(1) Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C gyda P cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.
(2) Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—
(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),
(b)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 18,
(c)y bydd y lleoliad yn diogelu a hyrwyddo llesiant C,
(d)yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac
(e)yr ystyriwyd safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 19 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
20. Os yw’r swyddog enwebedig yn ystyried hynny’n angenrheidiol ac yn gyson â llesiant C, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gyda P cyn cwblhau ei asesiad o dan reoliad 18 (“yr asesiad”), ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn—
(a)trefnu i P gael ei gyfweld, er mwyn casglu cymaint o’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 4, y gellir ei chasglu yn rhwydd yn y cyfweliad hwnnw, ynglŷn â P a’r personau eraill 18 oed a throsodd sy’n byw ar aelwyd P,
(b)sicrhau y cwblheir yr asesiad ac adolygiad o achos C yn unol â’r gofynion yn rheoliad 18 o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl lleoli C gyda P, ac
(c)sicrhau y gwneir penderfyniad yn unol â rheoliad 19 ac y’i cymeradwyir o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r asesiad, ac—
(i)os y penderfyniad yw cadarnhau’r lleoliad, adolygu’r cynllun lleoli ac, os yw’n briodol, ei ddiwygio, a
(ii)os y penderfyniad yw peidio â chadarnhau’r lleoliad, terfynu’r lleoliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 20 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
21. Os lleolir C gyda P, neu os bwriedir lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu pa wasanaethau a chymorth bynnag i P ag sy’n ymddangos i’r awdurdod cyfrifol yn angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant C, a rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi manylion o’r cyfryw wasanaethau a chymorth yng nghynllun gofal a chymorth C.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 21 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaeth sy’n pennu’r materion y mae’n rhaid i awdurdod cyfrifol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: