RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad
PENNOD 1Lleoli plentyn mewn gofal gyda P
Cymhwyso16.
(1)
Mae’r Bennod hon yn gymwys os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a’r awdurdod cyfrifol, gan weithredu yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, yn bwriadu lleoli C gyda P.
(2)
Nid oes dim yn y Bennod hon sy’n ei gwneud yn ofynnol fod yr awdurdod cyfrifol yn symud C o ofal P os yw C yn byw gyda P cyn bo penderfyniad lleoli’n cael ei wneud ynghylch C.
Effaith gorchymyn cyswllt17.
Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli C gyda P os byddai gwneud hynny’n anghydnaws ag unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).
Asesu addasrwydd P i ofalu am blentyn18.
Cyn penderfynu lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)
asesu addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—
(i)
y llety arfaethedig, a
(ii)
yr holl bersonau eraill 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,
(b)
(c)
ystyried a fydd y lleoliad, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth, a
(d)
adolygu achos C yn unol â Rhan 6.
Penderfyniad i leoli plentyn gyda P19.
(1)
Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C gyda P cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.
(2)
Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—
(a)
y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),
(b)
y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 18,
(c)
y bydd y lleoliad yn diogelu a hyrwyddo llesiant C,
(d)
yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac
(e)
yr ystyriwyd safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.
Amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiad20.
Os yw’r swyddog enwebedig yn ystyried hynny’n angenrheidiol ac yn gyson â llesiant C, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gyda P cyn cwblhau ei asesiad o dan reoliad 18 (“yr asesiad”), ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn—
(a)
trefnu i P gael ei gyfweld, er mwyn casglu cymaint o’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 4, y gellir ei chasglu yn rhwydd yn y cyfweliad hwnnw, ynglŷn â P a’r personau eraill 18 oed a throsodd sy’n byw ar aelwyd P,
(b)
sicrhau y cwblheir yr asesiad ac adolygiad o achos C yn unol â’r gofynion yn rheoliad 18 o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl lleoli C gyda P, ac
(c)
sicrhau y gwneir penderfyniad yn unol â rheoliad 19 ac y’i cymeradwyir o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r asesiad, ac—
(i)
os y penderfyniad yw cadarnhau’r lleoliad, adolygu’r cynllun lleoli ac, os yw’n briodol, ei ddiwygio, a
(ii)
os y penderfyniad yw peidio â chadarnhau’r lleoliad, terfynu’r lleoliad.
Cymorth i P21.
Os lleolir C gyda P, neu os bwriedir lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu pa wasanaethau a chymorth bynnag i P ag sy’n ymddangos i’r awdurdod cyfrifol yn angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant C, a rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi manylion o’r cyfryw wasanaethau a chymorth yng nghynllun gofal a chymorth C.