- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) pennod yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rhagolygol
22.—(1) Yn y Bennod hon—
ystyr “cymeradwy” (“approved”) yw fod person wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, naill ai—
yn unol â’r Rheoliadau Maethu; neu
yn unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(1); neu
mewn achos o leoli C gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”), yn unol â rheoliad 28; neu
mewn achos o leoli C gyda pherson cysylltiedig dros dro, yn unol â rheoliad 26; ac
mae i “person cofrestredig” (“registered person”) yr un ystyr ag yn y Rheoliadau Maethu(2).
(2) Pan leolir C gyda dau berson ar y cyd, sydd ill dau wedi eu cymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol(3), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at riant maeth awdurdod lleol fel pe bai’n cyfeirio i’r un graddau at y ddau berson hynny, a rhaid i unrhyw ofyniad sydd i’w fodloni gan neu sy’n ymwneud â rhiant maeth awdurdod lleol penodol gael ei fodloni gan y ddau ohonynt, neu ei drin fel pe bai’n ymwneud â’r ddau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 22 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag F.
(2) Ni chaiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag F ac eithrio os yw—
(a)F wedi ei gymeradwyo gan—
(i)yr awdurdod cyfrifol, neu
(ii)ar yr amod y bodlonir hefyd yr amodau a bennir ym mharagraff (3), darparwr gwasanaeth maethu arall,
(b)telerau cymeradwyaeth F yn gyson â’r lleoliad arfaethedig, ac
(c)F wedi ymuno mewn cytundeb gofal maeth naill ai gyda’r awdurdod cyfrifol neu gyda darparwr gwasanaeth maethu arall yn unol â rheoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â rheoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethu Maethu (Lloegr) 2011.
(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii) yw’r canlynol—
(a)bod y darparwr gwasanaeth maethu y cymeradwywyd F ganddo yn cydsynio â’r lleoliad, a
(b)os oes gan unrhyw awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol arall yn Lloegr, blentyn wedi ei leoli ar y pryd gydag F, fod yr awdurdod hwnnw’n cydsynio â’r lleoliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 23 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
24.—(1) Pan fo’n angenrheidiol lleoli C mewn argyfwng, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag unrhyw riant maeth awdurdod lleol sydd wedi ei gymeradwyo yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, hyd yn oed os nad yw telerau cymeradwyaeth y person hwnnw yn gyson â’r lleoliad, ar yr amod na wneir y lleoliad am gyfnod hwy na 6 diwrnod gwaith.
(2) Pan ddaw’r cyfnod o 6 diwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i ben, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad oni fydd telerau cymeradwyaeth y person hwnnw wedi diwygio i fod yn gyson â’r lleoliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 24 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
25.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu lleoli C gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”) yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014.
(2) Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.
(3) Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (2) rhaid i’r swyddog enwebedig—
(a)bod yn fodlon mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, ac y byddai’r lleoliad gydag A er budd pennaf C,
(b)bod yn fodlon y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b), ac
(c)os gŵyr yr awdurdod cyfrifol lle mae rhiant neu warcheidwad C, hysbysu rhiant neu warcheidwad C ynghylch y lleoliad arfaethedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 25 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
26.—(1) Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—
(a)mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson cysylltiedig, a hynny er nad yw’r person cysylltiedig wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, a
(b)bod angen lleoli C gyda’r person cysylltiedig cyn bo addasrwydd y person cysylltiedig i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol wedi ei asesu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011,
caiff gymeradwyo’r person hwnnw fel rhiant maeth awdurdod lleol dros dro, am gyfnod na fydd yn hwy nag 16 wythnos (“cymeradwyaeth dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn gyntaf yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).
(2) Cyn gwneud lleoliad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)asesu addasrwydd y person cysylltiedig i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—
(i)y llety arfaethedig, a
(ii)yr holl bersonau eraill, 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,
gan gymryd i ystyriaeth yr holl faterion a nodir yn Atodlen 5,
(b)darparu pa wasanaethau bynnag i gynorthwyo’r person cysylltiedig P ag sy’n ymddangos i’r awdurdod cyfrifol yn angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant C, a rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi manylion o’r cyfryw wasanaethau a chymorth yng nghynllun gofal a chymorth C,
(c)ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth,
(d)onid yw is-baragraff (e) yn gymwys, gwneud trefniadau ar unwaith ar gyfer asesu addasrwydd y person cysylltiedig i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu (“y broses asesu lawn”) cyn bo’r gymeradwyaeth dros dro yn dod i ben,
(e)os yw, neu os bydd, y person cysylltiedig yn ceisio cael ei asesu’n berson addas i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, caiff yr awdurdod cyfrifol ofyn am gydweithrediad y darparwr gwasanaethau maethu sy’n ymgymryd â’r asesiad, i gwblhau’r broses cyn bo’r gymeradwyaeth dros dro wedi dod i ben, ac
(f)gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda’r person cysylltiedig, i’r perwyl bod y person cysylltiedig yn cytuno i—
(i)gofalu am C fel pe bai C yn aelod o deulu’r person cysylltiedig,
(ii)caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod cyfrifol i ymweld ag C,
(iii)caniatáu symud C o’r lleoliad ar unrhyw adeg,
(iv)sicrhau y cedwir yn gyfrinachol yr holl wybodaeth sy’n ymwneud ag C ac â theulu C, a
(v)parchu trefniadau cyswllt a wneir yn unol ag unrhyw orchymyn gan y llys neu a wneir gan yr awdurdod cyfrifol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 26 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y gymeradwyaeth dros dro ar gyfer person cysylltiedig—
(a)os yw’r gymeradwyaeth dros dro yn debygol o ddod i ben cyn bo’r broses asesu lawn wedi ei chwblhau, neu
(b)os nad yw’r person cysylltiedig, ar ôl sefyll y broses asesu lawn, wedi ei gymeradwyo, ac yntau felly yn gofyn am adolygu’r penderfyniad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014(4) neu o dan baragraff 12F(1)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989.
(2) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(a), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro unwaith am gyfnod pellach o hyd at 8 wythnos.
(3) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(b), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro hyd nes bo canlyniad yr adolygiad yn hysbys.
(4) Cyn penderfynu a ddylid estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol yn gyntaf—
(a)ystyried a yw lleoliad gyda’r person cysylltiedig yn dal i fod y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael,
(b)gofyn barn y panel maethu a sefydlwyd gan y darparwr gwasanaeth maethu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, a
(c)hysbysu’r SAA.
(5) Rhaid i’r penderfyniad i estyn cymeradwyaeth dros dro gael ei wneud gan y swyddog enwebedig.
(6) Os yw’r cyfnod o gymeradwyaeth dros dro ac unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw’n dod i ben, a’r person cysylltiedig heb ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad ar ôl yn gyntaf wneud trefniadau eraill i letya C.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 27 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
28.—(1) Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—
(a)mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson nad yw wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, ond mai’r person hwnnw yw’r darpar fabwysiadydd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu (“A”), a
(b)y byddai lleoli C gydag A er budd pennaf C,
caiff yr awdurdod cyfrifol gymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol am gyfnod dros dro (“y cyfnod cymeradwyo dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn cydymffurfio yn gyntaf â gofynion paragraff (2).
(2) Cyn cymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)asesu addasrwydd A i ofalu am C fel rhiant maeth, a
(b)ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth.
(3) Bydd y cyfnod cymeradwyo dros dro yn dod i ben—
(a)pan derfynir lleoliad C gydag A gan yr awdurdod cyfrifol;
(b)pan derfynir cymeradwyaeth A fel darpar fabwysiadydd;
(c)pan gymeradwyir A fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011;
(d)os yw A wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cyfrifol nad yw A bellach yn dymuno cael ei gymeradwyo dros dro fel rhiant maeth mewn perthynas ag C, a bydd hynny’n cael effaith 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod cyfrifol yr hysbysiad; neu
(e)pan leolir C ar gyfer ei fabwysiadu gydag A yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(5).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 28 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
29.—(1) Caiff awdurdod cyfrifol wneud trefniadau yn unol â’r rheoliad hwn i’r dyletswyddau a osodir arno gan reoliad 15(3) a rheoliad 23 gael eu cyflawni ar ei ran gan berson cofrestredig.
(2) Ni chaniateir gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn oni fydd yr awdurdod cyfrifol wedi ymuno mewn cytundeb ysgrifenedig, gyda’r person cofrestredig, sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 6, a phan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud trefniant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol, rhaid i’r cytundeb ysgrifenedig gynnwys hefyd y materion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 6.
(3) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adrodd wrth Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am unrhyw bryderon sydd gan yr awdurdod cyfrifol ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir gan berson cofrestredig.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 29 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Diffinnir “darparydd cofrestredig” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Maethu (ac yn yr union eiriau yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethu Maethu (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/581).
Diffinnir “rhiant maeth awdurdod lleol” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014 fel (a) rhiant maeth awdurdod lleol yn Lloegr a gymeradwywyd yn unol â rheoliadau a wnaed yn rhinwedd paragraff 12F o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau yn darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol yn Lloegr); (b) rhiant maeth awdurdod lleol yng Nghymru a gymeradwywyd yn unol â rheoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol yng Nghymru).
Mae adran 92 (rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol a darpar fabwysiadwyr) ac adran 93 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol) o Ddeddf 2014 yn darparu enghreifftiau o’r modd y caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 87 o’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: