Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/07/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rhagolygol
31.—(1) Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag C yn unol â’r rheoliad hwn, lle bynnag y bo C yn byw.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o fewn un wythnos ar ôl dechrau unrhyw leoliad,
(b)fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad, ac
(c)wedi hynny—
(i)os bwriedir i’r lleoliad barhau hyd nes bo C yn 18 oed, fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis, a
(ii)mewn unrhyw achos arall, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
(3) Pan fo rheoliad 20 yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
(4) Pan fo rheoliad 26 yn gymwys, neu pan fo gorchymyn gofal interim wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 38 o Ddeddf 1989 (gorchmynion interim) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 4 wythnos.
(5) Pan fo gorchymyn gofal wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 31 o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal a goruchwylio) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o fewn un wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn gofal, a
(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
(6) Pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ond person arall sy’n gyfrifol am y trefniadau y mae C yn byw oddi tanynt am y tro (“trefniadau byw C”), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)o fewn un wythnos ar ôl dechrau trefniadau byw C ac o fewn un wythnos ar ôl unrhyw newid yn nhrefniadau byw C,
(b)fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos am y flwyddyn gyntaf wedi hynny, ac
(c)fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis mewn unrhyw flwyddyn ddilynol.
(7) Yn ychwanegol at ymweliadau yn unol â pharagraffau (2) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
(a)pa bryd bynnag y gofynnir iddo wneud hynny yn rhesymol gan—
(i)C,
(ii)pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, y person priodol, neu
(iii)pan fo paragraff (5) yn gymwys, y person sy’n gyfrifol am drefniadau byw C,
(b)o fewn un wythnos ar ôl cael hysbysiad o dan adran 30A(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) (hysbysiad ynghylch materion yn ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol), am y tro cyntaf, pan gyfeirir yn yr hysbysiad at y cartref plant y lleolir C ynddo am y tro.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 31 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
32.—(1) Ar bob ymweliad, rhaid i R siarad ag C yn breifat ac eithrio pan fo—
(a)C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny,
(b)R o’r farn y byddai’n amhriodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, neu
(c)R yn analluog i wneud hynny.
(2) Wrth ymweld ag C yn unol â’r Rhan hon, rhaid i R—
(a)sicrhau y canfyddir safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ac y rhoddir ystyriaeth briodol iddynt,
(b)ystyried a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo yn ddigonol o fewn y lleoliad,
(c)monitro cyflawniad y gweithredoedd a’r canlyniadau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth a chyfrannu (os yw’n ofynnol) i’r adolygiad o’r cynllun gofal a chymorth,
(d)monitro unrhyw drefniadau cyswllt sydd wedi eu sefydlu, a phan fo angen, ystyried a oes angen cymorth, neu gymorth ychwanegol, i hyrwyddo trefniadau cyswllt,
(e)canfod a oes angen cymorth neu wasanaethau ychwanegol i gynorthwyo’r lleoliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 32 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
33. Pan fo R, o ganlyniad i ymweliad a wnaed yn unol â’r Rhan hon, yn gwneud asesiad nad yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol gan y lleoliad, rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C yn unol â Rhan 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 33 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
34. Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng yr ymweliadau gan R, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—
(a)bod y trefniadau—
(i)yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, a
(ii)yn rhoi ystyriaeth briodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac i unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,
(b)bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynghylch y trefniadau wedi eu canfod ac wedi eu cymryd i ystyriaeth, ac
(c)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, fod C yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 34 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
35. Rhaid i R sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o unrhyw ymweliad a wneir yn unol â’r Rhan hon, a rhaid i’r cofnod gynnwys—
(a)asesiad ysgrifenedig R, sy’n rhoi sylw i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C, ynglŷn ag a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol tra bo C yn y lleoliad,
(b)manylion o’r cyngor neu gymorth y tybia R sydd ei angen ar C.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 35 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
36.—(1) Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’n briodol ai peidio penodi ymwelydd annibynnol i ymweld ag C ym mhle bynnag y bo C yn byw, mewn unrhyw achos—
(a)pan nad yw C wedi byw gyda rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ystod y 12 mis blaenorol,
(b)pan na fu cyswllt rhwng C a rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu pan ddigwyddodd cyswllt o’r fath yn anaml, neu
(c)pan fyddai gwneud hynny er budd pennaf C.
(2) Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried—
(a)a fyddai penodi ymwelydd annibynnol yn cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant C;
(b)os yw C wedi ei leoli ymhell o’i gartref, neu os yw C wedi ei leoli yn ardal awdurdod lleol arall neu ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a yw’r lleoliad yn gwneud cynnal y trefniadau cyswllt yn anodd;
(c)a yw C yn gallu mynd allan yn annibynnol, ynteu a yw C yn cael anhawster i gyfathrebu neu ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol;
(d)a yw C yn debygol o ymddwyn mewn ffordd sy’n ei roi mewn perygl o ffurfio perthynas anaddas;
(e)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, a fyddai cyfle i sefydlu perthynas gydag ymwelydd annibynnol yn hyrwyddo llesiant C.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 36 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
37. Os yw’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 36, ei bod yn briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol (yn unol ag oedran a dealltwriaeth C) esbonio rôl ymwelydd annibynnol wrth C.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 37 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Mewnosodwyd adran 30A gan adran 29 o Ddeddf 2008.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: