RHAN 5Ymweliadau gan gynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol etc.

Amlder yr ymweliadauI131

1

Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag C yn unol â’r rheoliad hwn, lle bynnag y bo C yn byw.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

a

o fewn un wythnos ar ôl dechrau unrhyw leoliad,

b

fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad, ac

c

wedi hynny—

i

os bwriedir i’r lleoliad barhau hyd nes bo C yn 18 oed, fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis, a

ii

mewn unrhyw achos arall, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.

3

Pan fo rheoliad 20 yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

a

o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a

b

wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.

4

Pan fo rheoliad 26 yn gymwys, neu pan fo gorchymyn gofal interim wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 38 o Ddeddf 1989 (gorchmynion interim) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

a

o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a

b

wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 4 wythnos.

5

Pan fo gorchymyn gofal wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 31 o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal a goruchwylio) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

a

o fewn un wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn gofal, a

b

wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.

6

Pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ond person arall sy’n gyfrifol am y trefniadau y mae C yn byw oddi tanynt am y tro (“trefniadau byw C”), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

a

o fewn un wythnos ar ôl dechrau trefniadau byw C ac o fewn un wythnos ar ôl unrhyw newid yn nhrefniadau byw C,

b

fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos am y flwyddyn gyntaf wedi hynny, ac

c

fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis mewn unrhyw flwyddyn ddilynol.

7

Yn ychwanegol at ymweliadau yn unol â pharagraffau (2) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

a

pa bryd bynnag y gofynnir iddo wneud hynny yn rhesymol gan—

i

C,

ii

pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, y person priodol, neu

iii

pan fo paragraff (5) yn gymwys, y person sy’n gyfrifol am drefniadau byw C,

b

o fewn un wythnos ar ôl cael hysbysiad o dan adran 30A53 o Ddeddf Safonau Gofal 200054 (hysbysiad ynghylch materion yn ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol), am y tro cyntaf, pan gyfeirir yn yr hysbysiad at y cartref plant y lleolir C ynddo am y tro.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 31 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cynnal yr ymweliadauI232

1

Ar bob ymweliad, rhaid i R siarad ag C yn breifat ac eithrio pan fo—

a

C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny,

b

R o’r farn y byddai’n amhriodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, neu

c

R yn analluog i wneud hynny.

2

Wrth ymweld ag C yn unol â’r Rhan hon, rhaid i R—

a

sicrhau y canfyddir safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ac y rhoddir ystyriaeth briodol iddynt,

b

ystyried a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo yn ddigonol o fewn y lleoliad,

c

monitro cyflawniad y gweithredoedd a’r canlyniadau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth a chyfrannu (os yw’n ofynnol) i’r adolygiad o’r cynllun gofal a chymorth,

d

monitro unrhyw drefniadau cyswllt sydd wedi eu sefydlu, a phan fo angen, ystyried a oes angen cymorth, neu gymorth ychwanegol, i hyrwyddo trefniadau cyswllt,

e

canfod a oes angen cymorth neu wasanaethau ychwanegol i gynorthwyo’r lleoliad.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 32 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Canlyniadau’r ymweliadauI333

Pan fo R, o ganlyniad i ymweliad a wnaed yn unol â’r Rhan hon, yn gwneud asesiad nad yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol gan y lleoliad, rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C yn unol â Rhan 6.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 33 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cyngor a chymorth arall i’r plentynI434

Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng yr ymweliadau gan R, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—

a

bod y trefniadau—

i

yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, a

ii

yn rhoi ystyriaeth briodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac i unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,

b

bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynghylch y trefniadau wedi eu canfod ac wedi eu cymryd i ystyriaeth, ac

c

i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, fod C yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 34 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cofnodion o ymweliadau a wneir gan RI535

Rhaid i R sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o unrhyw ymweliad a wneir yn unol â’r Rhan hon, a rhaid i’r cofnod gynnwys—

a

asesiad ysgrifenedig R, sy’n rhoi sylw i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C, ynglŷn ag a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol tra bo C yn y lleoliad,

b

manylion o’r cyngor neu gymorth y tybia R sydd ei angen ar C.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 35 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Penodi ymwelydd annibynnol

I636

1

Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’n briodol ai peidio penodi ymwelydd annibynnol i ymweld ag C ym mhle bynnag y bo C yn byw, mewn unrhyw achos—

a

pan nad yw C wedi byw gyda rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ystod y 12 mis blaenorol,

b

pan na fu cyswllt rhwng C a rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu pan ddigwyddodd cyswllt o’r fath yn anaml, neu

c

pan fyddai gwneud hynny er budd pennaf C.

2

Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried—

a

a fyddai penodi ymwelydd annibynnol yn cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant C;

b

os yw C wedi ei leoli ymhell o’i gartref, neu os yw C wedi ei leoli yn ardal awdurdod lleol arall neu ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a yw’r lleoliad yn gwneud cynnal y trefniadau cyswllt yn anodd;

c

a yw C yn gallu mynd allan yn annibynnol, ynteu a yw C yn cael anhawster i gyfathrebu neu ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol;

d

a yw C yn debygol o ymddwyn mewn ffordd sy’n ei roi mewn perygl o ffurfio perthynas anaddas;

e

pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, a fyddai cyfle i sefydlu perthynas gydag ymwelydd annibynnol yn hyrwyddo llesiant C.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 36 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I737

Os yw’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 36, ei bod yn briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol (yn unol ag oedran a dealltwriaeth C) esbonio rôl ymwelydd annibynnol wrth C.