RHAN 7Trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn
Penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am CI145
1
Mewn unrhyw achos pan fo C yn 16 neu’n 17 oed ac nad yw yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am C hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod cyfrifol.
2
Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol gael ei fodloni—
a
y cydymffurfiwyd â rheoliad 10(1)(b)(i),
b
yr ymgynghorwyd ag SAA C,
c
pan fo’n briodol, yr ymgynghorwyd â pherthnasau C, a
d
y cydymffurfiwyd â rheoliad 46, neu reoliadau 47 – 51 (fel sy’n briodol).
Trefniadau ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn nad yw’n berson ifanc categori 1I246
Mewn unrhyw achos pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac nad yw’n debygol o fod yn berson ifanc categori 155 pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi’r gorau i ofalu am C, rhaid i’r cynllun gofal a chymorth (neu os yw rheoliad 58 yn gymwys, y cynllun lleoli dan gadwad) gynnwys manylion am y cyngor a chymorth arall y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu eu darparu i C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal ganddo.
Personau ifanc categori 1
Ystyr person ifanc categori 1I347
1
At ddibenion adran 104(2) o Ddeddf 2014 y cyfnod rhagnodedig yw 13 wythnos a’r oedran rhagnodedig yw 14.
2
At ddibenion adran 104(6)(b) o Ddeddf 2014, os yw C yn blentyn y mae rheoliad 62 yn gymwys iddo, nid yw C yn berson ifanc categori 1 er gwaethaf dod o fewn adran 104(2) o’r Ddeddf honno.
Dyletswyddau cyffredinolI448
Os yw C yn berson ifanc categori 1, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
a
asesu anghenion C yn unol â rheoliad 49, a
b
paratoi cynllun llwybr C yn unol â rheoliad 51.
Asesu anghenionI549
1
Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gwblhau’r asesiad o anghenion C yn unol ag adran 107(1) o Ddeddf 2014 o fewn dim mwy na 3 mis ar ôl y dyddiad y mae C yn cyrraedd 16 oed neu’n dod yn berson ifanc categori 1 ar ôl yr oedran hwnnw.
2
Wrth wneud ei asesiad o anghenion tebygol C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd i ystyriaeth y materion canlynol—
a
cyflwr iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ddatblygiad;
b
angen parhaus C am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;
c
os yw C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), unrhyw anghenion sydd gan C o ganlyniad i’r statws hwnnw;
d
y cymorth a fydd ar gael i C gan ei rieni a phersonau cysylltiedig eraill;
e
pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol—
i
a yw C ac F wedi penderfynu eu bod yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-1856, neu
ii
pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu i C ac F i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad o’r fath;
f
adnoddau ariannol presennol a disgwyliedig C a’i allu i reoli ei adnoddau ariannol personol yn annibynnol;
g
i ba raddau y mae C yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol;
h
angen C am ofal parhaus, cymorth a llety;
i
safbwyntiau, dymuniadau a theimladau—
i
C,
ii
unrhyw riant i C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,
iii
y person priodol;
j
safbwyntiau—
i
unrhyw berson neu sefydliad addysgol sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, ac os oes gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod cyfrifol sy’n cynnal y datganiad,
ii
yr SAA,
iii
unrhyw berson sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd (pa un ai iechyd corfforol, meddyliol neu emosiynol) neu ofal neu driniaeth ddeintyddol i C,
iv
y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C a
v
unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau yn berthnasol, gan yr awdurdod cyfrifol neu gan C.
Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18I650
1
Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 108(2) o Ddeddf 201457, rhaid i awdurdod cyfrifol ddarparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) ynghylch trefniadau byw ôl-18, i’r personau canlynol—
a
C, pan fo C wedi ei leoli gydag F neu mewn cartref plant, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;
b
C, pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;
c
unrhyw F y lleolwyd C gydag ef gan yr awdurdod cyfrifol, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;
d
unrhyw gyn-riant maeth58 C;
e
rhiant neu berson arall a oedd â chyfrifoldeb rhiant am C cyn lleoli C gydag F (oni fyddai gwneud hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed);
f
pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C;
g
yr SAA;
h
R;
i
os penodwyd un ar gyfer C, ymwelydd annibynnol;
j
person ifanc categori 3 sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;
k
cyn-riant maeth sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;
l
unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod cyfrifol fod arno angen y cyfryw wybodaeth.
2
Mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—
a
yn cynnwys—
i
manylion am ddyletswyddau’r awdurdod cyfrifol o dan adran 108 o Ddeddf 2014,
ii
copi o bolisi’r awdurdod cyfrifol ar drefniadau byw ôl-18,
iii
gwybodaeth am y goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig â gwneud trefniant byw ôl-18, fel y maent yn gymwys i C ac i F,
iv
gwybodaeth am ddewisiadau amgen sydd ar gael i C yn hytrach na threfniant byw ôl-18, a chymhwystra ar eu cyfer,
v
manylion am ffynonellau gwybodaeth, cymorth a chyngor eraill sydd ar gael i gynorthwyo C ac F i wneud penderfyniad ynghylch trefniant byw ôl-18,
vi
gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bersonau ifanc categori 3 a’u cyn-rieni maeth sy’n gwneud trefniant byw ôl-18, yn ystod trefniant o’r fath,
vii
diweddariadau ynghylch unrhyw newidiadau i bolisi neu ymarfer yr awdurdod cyfrifol mewn perthynas â gwneud trefniant byw ôl-18 a’r cymorth a ddarperir yn ystod trefniant o’r fath, a
b
rhaid ei darparu mewn fformat sy’n addas i oedran a dealltwriaeth y derbynnydd.
Y cynllun llwybrI751
1
Rhaid paratoi’r cynllun llwybr cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr asesiad o anghenion C, a rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys, yn benodol—
a
cynllun gofal a chymorth C, a
b
yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 9.
2
Rhaid i’r cynllun llwybr, mewn perthynas â phob un o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2 i 11 o Atodlen 9, nodi—
a
y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu diwallu anghenion C, a
b
erbyn pa ddyddiad, a chan bwy, y cyflawnir unrhyw weithred sy’n ofynnol er mwyn gweithredu unrhyw agwedd ar y cynllun.
Swyddogaethau’r cynghorydd personolI852
Swyddogaethau’r cynghorydd personol mewn perthynas ag C yw’r canlynol—
a
darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth,
b
cymryd rhan yn yr adolygiadau o achos C a gyflawnir o dan Ran 6,
c
cysylltu â’r awdurdod cyfrifol ynglŷn â gweithredu’r cynllun llwybr,
d
cydgysylltu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod C yn defnyddio’r cyfryw wasanaethau,
e
cynnal ei wybodaeth am gynnydd a llesiant C, ac
f
cadw cofnod ysgrifenedig o’i gysylltiadau ag C.