RHAN 7Trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn

Personau ifanc categori 1

Ystyr person ifanc categori 1I147

1

At ddibenion adran 104(2) o Ddeddf 2014 y cyfnod rhagnodedig yw 13 wythnos a’r oedran rhagnodedig yw 14.

2

At ddibenion adran 104(6)(b) o Ddeddf 2014, os yw C yn blentyn y mae rheoliad 62 yn gymwys iddo, nid yw C yn berson ifanc categori 1 er gwaethaf dod o fewn adran 104(2) o’r Ddeddf honno.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 47 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Dyletswyddau cyffredinolI248

Os yw C yn berson ifanc categori 1, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

a

asesu anghenion C yn unol â rheoliad 49, a

b

paratoi cynllun llwybr C yn unol â rheoliad 51.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 48 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asesu anghenionI349

1

Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gwblhau’r asesiad o anghenion C yn unol ag adran 107(1) o Ddeddf 2014 o fewn dim mwy na 3 mis ar ôl y dyddiad y mae C yn cyrraedd 16 oed neu’n dod yn berson ifanc categori 1 ar ôl yr oedran hwnnw.

2

Wrth wneud ei asesiad o anghenion tebygol C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd i ystyriaeth y materion canlynol—

a

cyflwr iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ddatblygiad;

b

angen parhaus C am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;

c

os yw C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), unrhyw anghenion sydd gan C o ganlyniad i’r statws hwnnw;

d

y cymorth a fydd ar gael i C gan ei rieni a phersonau cysylltiedig eraill;

e

pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol—

i

a yw C ac F wedi penderfynu eu bod yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-1856, neu

ii

pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu i C ac F i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad o’r fath;

f

adnoddau ariannol presennol a disgwyliedig C a’i allu i reoli ei adnoddau ariannol personol yn annibynnol;

g

i ba raddau y mae C yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol;

h

angen C am ofal parhaus, cymorth a llety;

i

safbwyntiau, dymuniadau a theimladau—

i

C,

ii

unrhyw riant i C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,

iii

y person priodol;

j

safbwyntiau—

i

unrhyw berson neu sefydliad addysgol sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, ac os oes gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod cyfrifol sy’n cynnal y datganiad,

ii

yr SAA,

iii

unrhyw berson sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd (pa un ai iechyd corfforol, meddyliol neu emosiynol) neu ofal neu driniaeth ddeintyddol i C,

iv

y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C a

v

unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau yn berthnasol, gan yr awdurdod cyfrifol neu gan C.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 49 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18I450

1

Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 108(2) o Ddeddf 201457, rhaid i awdurdod cyfrifol ddarparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) ynghylch trefniadau byw ôl-18, i’r personau canlynol—

a

C, pan fo C wedi ei leoli gydag F neu mewn cartref plant, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

b

C, pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

c

unrhyw F y lleolwyd C gydag ef gan yr awdurdod cyfrifol, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

d

unrhyw gyn-riant maeth58 C;

e

rhiant neu berson arall a oedd â chyfrifoldeb rhiant am C cyn lleoli C gydag F (oni fyddai gwneud hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed);

f

pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C;

g

yr SAA;

h

R;

i

os penodwyd un ar gyfer C, ymwelydd annibynnol;

j

person ifanc categori 3 sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;

k

cyn-riant maeth sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;

l

unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod cyfrifol fod arno angen y cyfryw wybodaeth.

2

Mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

a

yn cynnwys—

i

manylion am ddyletswyddau’r awdurdod cyfrifol o dan adran 108 o Ddeddf 2014,

ii

copi o bolisi’r awdurdod cyfrifol ar drefniadau byw ôl-18,

iii

gwybodaeth am y goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig â gwneud trefniant byw ôl-18, fel y maent yn gymwys i C ac i F,

iv

gwybodaeth am ddewisiadau amgen sydd ar gael i C yn hytrach na threfniant byw ôl-18, a chymhwystra ar eu cyfer,

v

manylion am ffynonellau gwybodaeth, cymorth a chyngor eraill sydd ar gael i gynorthwyo C ac F i wneud penderfyniad ynghylch trefniant byw ôl-18,

vi

gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bersonau ifanc categori 3 a’u cyn-rieni maeth sy’n gwneud trefniant byw ôl-18, yn ystod trefniant o’r fath,

vii

diweddariadau ynghylch unrhyw newidiadau i bolisi neu ymarfer yr awdurdod cyfrifol mewn perthynas â gwneud trefniant byw ôl-18 a’r cymorth a ddarperir yn ystod trefniant o’r fath, a

b

rhaid ei darparu mewn fformat sy’n addas i oedran a dealltwriaeth y derbynnydd.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 50 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Y cynllun llwybrI551

1

Rhaid paratoi’r cynllun llwybr cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr asesiad o anghenion C, a rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys, yn benodol—

a

cynllun gofal a chymorth C, a

b

yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 9.

2

Rhaid i’r cynllun llwybr, mewn perthynas â phob un o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2 i 11 o Atodlen 9, nodi—

a

y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu diwallu anghenion C, a

b

erbyn pa ddyddiad, a chan bwy, y cyflawnir unrhyw weithred sy’n ofynnol er mwyn gweithredu unrhyw agwedd ar y cynllun.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 51 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Swyddogaethau’r cynghorydd personolI652

Swyddogaethau’r cynghorydd personol mewn perthynas ag C yw’r canlynol—

a

darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth,

b

cymryd rhan yn yr adolygiadau o achos C a gyflawnir o dan Ran 6,

c

cysylltu â’r awdurdod cyfrifol ynglŷn â gweithredu’r cynllun llwybr,

d

cydgysylltu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod C yn defnyddio’r cyfryw wasanaethau,

e

cynnal ei wybodaeth am gynnydd a llesiant C, ac

f

cadw cofnod ysgrifenedig o’i gysylltiadau ag C.