xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 7LL+CTrefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn

Penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am CLL+C

45.—(1Mewn unrhyw achos pan fo C yn 16 neu’n 17 oed ac nad yw yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am C hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod cyfrifol.

(2Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol gael ei fodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)yr ymgynghorwyd ag SAA C,

(c)pan fo’n briodol, yr ymgynghorwyd â pherthnasau C, a

(d)y cydymffurfiwyd â rheoliad 46, neu reoliadau 47 – 51 (fel sy’n briodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 45 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn nad yw’n berson ifanc categori 1LL+C

46.  Mewn unrhyw achos pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac nad yw’n debygol o fod yn berson ifanc categori 1(1) pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi’r gorau i ofalu am C, rhaid i’r cynllun gofal a chymorth (neu os yw rheoliad 58 yn gymwys, y cynllun lleoli dan gadwad) gynnwys manylion am y cyngor a chymorth arall y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu eu darparu i C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 46 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Personau ifanc categori 1LL+C

Ystyr person ifanc categori 1LL+C

47.—(1At ddibenion adran 104(2) o Ddeddf 2014 y cyfnod rhagnodedig yw 13 wythnos a’r oedran rhagnodedig yw 14.

(2At ddibenion adran 104(6)(b) o Ddeddf 2014, os yw C yn blentyn y mae rheoliad 62 yn gymwys iddo, nid yw C yn berson ifanc categori 1 er gwaethaf dod o fewn adran 104(2) o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 47 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Dyletswyddau cyffredinolLL+C

48.  Os yw C yn berson ifanc categori 1, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)asesu anghenion C yn unol â rheoliad 49, a

(b)paratoi cynllun llwybr C yn unol â rheoliad 51.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 48 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asesu anghenionLL+C

49.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gwblhau’r asesiad o anghenion C yn unol ag adran 107(1) o Ddeddf 2014 o fewn dim mwy na 3 mis ar ôl y dyddiad y mae C yn cyrraedd 16 oed neu’n dod yn berson ifanc categori 1 ar ôl yr oedran hwnnw.

(2Wrth wneud ei asesiad o anghenion tebygol C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd i ystyriaeth y materion canlynol—

(a)cyflwr iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ddatblygiad;

(b)angen parhaus C am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;

(c)os yw C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), unrhyw anghenion sydd gan C o ganlyniad i’r statws hwnnw;

(d)y cymorth a fydd ar gael i C gan ei rieni a phersonau cysylltiedig eraill;

(e)pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol—

(i)a yw C ac F wedi penderfynu eu bod yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18(2), neu

(ii)pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu i C ac F i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad o’r fath;

(f)adnoddau ariannol presennol a disgwyliedig C a’i allu i reoli ei adnoddau ariannol personol yn annibynnol;

(g)i ba raddau y mae C yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol;

(h)angen C am ofal parhaus, cymorth a llety;

(i)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau—

(i)C,

(ii)unrhyw riant i C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,

(iii)y person priodol;

(j)safbwyntiau—

(i)unrhyw berson neu sefydliad addysgol sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, ac os oes gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod cyfrifol sy’n cynnal y datganiad,

(ii)yr SAA,

(iii)unrhyw berson sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd (pa un ai iechyd corfforol, meddyliol neu emosiynol) neu ofal neu driniaeth ddeintyddol i C,

(iv)y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C a

(v)unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau yn berthnasol, gan yr awdurdod cyfrifol neu gan C.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 49 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18LL+C

50.—(1Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 108(2) o Ddeddf 2014(3), rhaid i awdurdod cyfrifol ddarparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) ynghylch trefniadau byw ôl-18, i’r personau canlynol—

(a)C, pan fo C wedi ei leoli gydag F neu mewn cartref plant, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

(b)C, pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

(c)unrhyw F y lleolwyd C gydag ef gan yr awdurdod cyfrifol, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

(d)unrhyw gyn-riant maeth(4) C;

(e)rhiant neu berson arall a oedd â chyfrifoldeb rhiant am C cyn lleoli C gydag F (oni fyddai gwneud hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed);

(f)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C;

(g)yr SAA;

(h)R;

(i)os penodwyd un ar gyfer C, ymwelydd annibynnol;

(j)person ifanc categori 3 sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;

(k)cyn-riant maeth sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;

(l)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod cyfrifol fod arno angen y cyfryw wybodaeth.

(2Mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

(a)yn cynnwys—

(i)manylion am ddyletswyddau’r awdurdod cyfrifol o dan adran 108 o Ddeddf 2014,

(ii)copi o bolisi’r awdurdod cyfrifol ar drefniadau byw ôl-18,

(iii)gwybodaeth am y goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig â gwneud trefniant byw ôl-18, fel y maent yn gymwys i C ac i F,

(iv)gwybodaeth am ddewisiadau amgen sydd ar gael i C yn hytrach na threfniant byw ôl-18, a chymhwystra ar eu cyfer,

(v)manylion am ffynonellau gwybodaeth, cymorth a chyngor eraill sydd ar gael i gynorthwyo C ac F i wneud penderfyniad ynghylch trefniant byw ôl-18,

(vi)gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bersonau ifanc categori 3 a’u cyn-rieni maeth sy’n gwneud trefniant byw ôl-18, yn ystod trefniant o’r fath,

(vii)diweddariadau ynghylch unrhyw newidiadau i bolisi neu ymarfer yr awdurdod cyfrifol mewn perthynas â gwneud trefniant byw ôl-18 a’r cymorth a ddarperir yn ystod trefniant o’r fath, a

(b)rhaid ei darparu mewn fformat sy’n addas i oedran a dealltwriaeth y derbynnydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 50 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Y cynllun llwybrLL+C

51.—(1Rhaid paratoi’r cynllun llwybr cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr asesiad o anghenion C, a rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys, yn benodol—

(a)cynllun gofal a chymorth C, a

(b)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 9.

(2Rhaid i’r cynllun llwybr, mewn perthynas â phob un o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2 i 11 o Atodlen 9, nodi—

(a)y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu diwallu anghenion C, a

(b)erbyn pa ddyddiad, a chan bwy, y cyflawnir unrhyw weithred sy’n ofynnol er mwyn gweithredu unrhyw agwedd ar y cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 51 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Swyddogaethau’r cynghorydd personolLL+C

52.  Swyddogaethau’r cynghorydd personol mewn perthynas ag C yw’r canlynol—

(a)darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth,

(b)cymryd rhan yn yr adolygiadau o achos C a gyflawnir o dan Ran 6,

(c)cysylltu â’r awdurdod cyfrifol ynglŷn â gweithredu’r cynllun llwybr,

(d)cydgysylltu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod C yn defnyddio’r cyfryw wasanaethau,

(e)cynnal ei wybodaeth am gynnydd a llesiant C, ac

(f)cadw cofnod ysgrifenedig o’i gysylltiadau ag C.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 52 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Diffinnir “person ifanc categori 1” yn adran 104(2) o Ddeddf 2014.

(2)

Diffinnir “trefniant byw ôl-18” yn adran 108(3) o Ddeddf 2014. Mae dyletswydd ar yr awdurdod cyfrifol i ganfod a yw unrhyw C, sy’n berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18 ar ôl i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben (gweler adran 108(2) o Ddeddf 2014), ac i hwyluso trefniant o’r fath os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n gyson â llesiant C (gweler adran 108(4) a (5) o’r Ddeddf honno).

(3)

Mae adran 108(2) o Ddeddf 2014 yn gwneud yn ofynnol fod yr awdurdod cyfrifol yn canfod a yw C ac F yn dymuno gwneud trefniadau byw ôl-18 pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

(4)

Diffinnir “cyn-riant maeth” yn adran 108(3) o Ddeddf 2014 .