- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
56.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn y Rhan hon tra bo C—
(a)ar remánd i lety awdurdod lleol,
(b)ar remánd i lety cadw ieuenctid (“LlCI”), neu
(c)dan gadwad(1).
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)pan fo C ar remánd i lety awdurdod lleol neu LlCI, rhaid dehongli cyfeiriadau at yr “awdurdod cyfrifol” fel pe baent yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol a ddynodwyd gan y llys o dan adran 92(2) neu adran 102(6), yn ôl y digwydd, o Ddeddf 2012,
(b)pan fo C ar remánd i LlCI neu dan gadwad, rhaid dehongli cyfeiriadau at ei “leoli” fel pe baent yn gyfeiriadau at roi C ar remánd neu dan gadwad felly,
(c)pan fo C ar remánd i LlCI neu dan gadwad—
(i)rhaid darllen cyfeiriadau at y “cynllun lleoli”(2) fel pe baent yn gyfeiriadau at y “cynllun lleoli dan gadwad”, a
(ii)pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd felly, rhaid darllen cyfeiriadau at y “cynllun gofal a chymorth” hefyd fel pe baent yn gyfeiriadau at y “cynllun lleoli dan gadwad”.
57.—(1) Mae Rhan 2 (trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i lety awdurdod lleol—
(a)yn rheoliad 4(3), rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly, a
(b)nid yw rheoliad 5(1)(a) yn gymwys.
(3) Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—
(a)nid yw rheoliad 5(1)(c) yn gymwys, a rhaid i’r cynllun gofal a chymorth, yn hytrach gynnwys cynllun lleoli dan gadwad,
(b)yn rheoliad 6(3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi hefyd o’r cynllun gofal a chymorth i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI, ac
(c)nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys.
(4) Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI—
(a)nid yw rheoliad 5 yn gymwys, ac yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad, sydd hefyd yn cynnwys manylion o safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau a ganfyddir ac a ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y cynllun lleoli dan gadwad, a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny mewn perthynas ag unrhyw newid, neu newid arfaethedig, yn y cynllun lleoli dan gadwad,
(b)nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys, ac mae rheoliad (5) yn gymwys gyda’r addasiad y rhoddir “cynllun lleoli dan gadwad” yn lle “cynllun iechyd”.
58.—(1) Mae Rhan 3 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI, nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach—
(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI, baratoi cynllun ar gyfer y remánd (“y cynllun lleoli dan gadwad”) sydd—
(i)yn nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a
(ii)yn cynnwys enw a chyfeiriad y LlCI, a’r materion a bennir yn Atodlen 10.
(3) Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—
(a)nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad yn unol ag is-baragraff (b);
(b)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, baratoi cynllun lleoli dan gadwad (a gaiff ei gynnwys yng nghynllun gofal a chymorth C) ar gyfer y remánd neu gadwad, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI neu dan gadwad, a rhaid i’r cynllun—
(i)nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a
(ii)cynnwys, fel y bo’n briodol, enw a chyfeiriad y carchar, LlCI, neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi a’r materion a bennir yn Atodlen 10;
(c)rhaid hysbysu’r SAA ynghylch y remánd neu gadwad.
(4) Pan fo C yn dod o fewn paragraff (2) neu (3)—
(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol;
(b)rhaid i’r cynllun lleoli dan gadwad gael ei gytuno a’i lofnodi gan gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi.
(5) Pan fo C ar remánd i lety awdurdod lleol, mae rheoliad 10(1) yn gymwys gyda’r addasiad fod rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly.
59. Nid yw Rhan 4 (darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad) yn gymwys pan fo C ar remand i LlCI neu pan fo C dan gadwad.
60. Mae Rhan 5 (ymweliadau gan gynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol etc.) yn gymwys gyda’r addasiad, yn rheoliad 31(7)(a), fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C, pa fo C ar remánd i LlCI neu pan fo C dan gadwad, pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar, yr LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi.
61. Mae Rhan 6 (adolygiadau) yn gymwys gyda’r addasiad, yn rheoliad 41, fod yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C, pan fo C ar remánd i LlCI neu pan fo C dan gadwad, wedi eu nodi ym mharagraffau 1, 4, a 6 i 13 o Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C).
Gweler rheoliad 2(2) am ddiffiniad o “dan gadwad”.
Gweler rheoliadau 5 a 10 am y ddarpariaeth ynglŷn â’r cynllun lleoli, sy’n ffurfio rhan o gynllun gofal a chymorth C ac yn nodi manylion y trefniadau ar gyfer y lleoliad a’r llety sydd i’w darparu ar gyfer C.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: