YR ATODLENNI

ATODLEN 2Cynlluniau gofal a chymorth

Rheoliad 5

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun iechydI11

1

Cyflwr iechyd C gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

2

Hanes iechyd C gan gynnwys, i’r graddau sy’n ymarferol, hanes iechyd teulu C.

3

Effaith iechyd a hanes iechyd C ar ei ddatblygiad.

4

Y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol C, sy’n briodol i’w anghenion, gan gynnwys—

a

gwiriadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol C, gan gynnwys iechyd deintyddol;

b

triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd a nodir (gan gynnwys iechyd corfforol ac emosiynol, ac yn enwedig iechyd meddwl) neu anghenion gofal deintyddol;

c

mesurau ataliol megis brechiadau ac imiwneiddio;

d

sgrinio am ddiffygion golwg neu glyw; ac

e

cyngor a chanllawiau ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol (gan gynnwys iechyd meddwl a gofal geneuol).

5

Unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau presennol.

6

Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C, mewn hyrwyddo iechyd C.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun addysg personolI22

1

Hanes addysgol a hanes hyfforddiant C, gan gynnwys gwybodaeth am sefydliadau addysgol a fynychwyd, a chofnod presenoldeb ac ymddygiad C, ei gyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill; ac anghenion addysgol arbennig C, os oes rhai.

2

Y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys manylion am unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig, ac unrhyw ddarpariaeth arall a wneir i ddiwallu anghenion penodol C o ran addysg neu hyfforddiant, a hyrwyddo ei gyflawniad addysgol.

3

Diddordebau hamdden C.

4

Pan fo angen gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, y ddarpariaeth a wnaed i leihau’r amharu ar yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw.

5

Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C o ran hyrwyddo cyflawniadau addysgol C a’i ddiddordebau hamdden.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Perthnasoedd teuluol a chymdeithasolI33

1

Os oes gan C frawd neu chwaer y darperir llety ar ei gyfer neu ar ei chyfer gan yr awdurdod cyfrifol neu awdurdod arall, ac nad yw’r plant wedi eu lleoli gyda’i gilydd, y trefniadau a wnaed i hyrwyddo cyswllt rhyngddynt, i’r graddau y mae hynny’n gyson â llesiant C.

2

Os yw C yn derbyn gofal gan, ond nid yng ngofal, yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989.

3

Os yw C yn blentyn yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

4

Unrhyw drefniadau eraill a wnaed i hyrwyddo a chynnal cyswllt yn unol ag adran 95 o Ddeddf 2014, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant C, rhwng C ac—

a

unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

b

unrhyw berson cysylltiedig arall.

5

Pan fo adran 98(1) o Ddeddf 2014 (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal) yn gymwys, y trefniadau a wnaed i benodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C neu, os yw adran 98(6) o’r Ddeddf honno’n gymwys (ymwelydd annibynnol heb ei benodi pan fo’r plentyn yn gwrthwynebu), y ffaith honno.