YR ATODLENNI
ATODLEN 7Materion sydd i’w hystyried cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014
I11
Mewn cysylltiad â’r llety—
a
y cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddarperir,
b
ei gyflwr,
c
ei ddiogelwch,
d
ei leoliad,
e
y cymorth,
f
y statws tenantiaeth, ac
g
yr ymrwymiadau ariannol sy’n gysylltiedig ar gyfer C a’u fforddiadwyedd.
I22
Mewn cysylltiad ag C—
a
ei safbwyntiau ynglŷn â’r llety,
b
ei ddealltwriaeth o’i hawliau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â’r llety, a
c
ei ddealltwriaeth o’r trefniadau cyllido.