ATODLEN 9Materion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun llwybr
1.
Enw cynghorydd personol C.
2.
Natur a lefel y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i C, a chan bwy.
3.
Manylion am y llety a feddiennir gan C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.
4.
Pan fo C yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, manylion am y cyngor a’r cymorth a ddarperir gan yr awdurdod cyfrifol i hwyluso a chynorthwyo C wrth wneud trefniant o’r fath.
5.
Y cynllun ar gyfer addysg neu hyfforddiant parhaus C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.
6.
Y modd y bydd yr awdurdod cyfrifol yn cynorthwyo C i gael cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.
7.
Y cymorth a ddarperir i alluogi C i ddatblygu a chynnal perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol.
8.
Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd ar C eu hangen i fyw yn annibynnol.
9.
Y cymorth ariannol a ddarperir i alluogi C i ddiwallu costau llety a chostau cynnal.
10.
Anghenion gofal iechyd C, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd corfforol, emosiynol neu feddyliol a’r modd y diwellir yr anghenion hyn pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.
11.
Cynlluniau wrth gefn yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gweithredu os digwydd i’r cynllun llwybr, am unrhyw reswm, beidio â bod yn effeithiol.