xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

YR ATODLENNI

Rheoliad 51

ATODLEN 9LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun llwybr

1.  Enw cynghorydd personol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Natur a lefel y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i C, a chan bwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Manylion am y llety a feddiennir gan C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Pan fo C yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, manylion am y cyngor a’r cymorth a ddarperir gan yr awdurdod cyfrifol i hwyluso a chynorthwyo C wrth wneud trefniant o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  Y cynllun ar gyfer addysg neu hyfforddiant parhaus C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  Y modd y bydd yr awdurdod cyfrifol yn cynorthwyo C i gael cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Y cymorth a ddarperir i alluogi C i ddatblygu a chynnal perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 9 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd ar C eu hangen i fyw yn annibynnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 9 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Y cymorth ariannol a ddarperir i alluogi C i ddiwallu costau llety a chostau cynnal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 9 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  Anghenion gofal iechyd C, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd corfforol, emosiynol neu feddyliol a’r modd y diwellir yr anghenion hyn pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

11.  Cynlluniau wrth gefn yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gweithredu os digwydd i’r cynllun llwybr, am unrhyw reswm, beidio â bod yn effeithiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 9 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)