YR ATODLENNI

I53ATODLEN 1Darpariaethau sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru a arferir wrth wneud y Rheoliadau hyn

Y Rhaglith

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Y deddfiad sy’n rhoi pŵer

Deddf 2014

Adrannau 81(6)(d), 83(5) 84, 87, 97(4)(a), 97(5), 98(1)(a), 100(1)(b), 100(2)(a), 102(1), 102(2), 104(2)(c), 104(6), 106(4), 107(7)(c), 107(8), 107(9), 108(6), a 196(2)

Deddf Plant 1989

Adrannau 31A a 34(8).

ATODLEN 2Cynlluniau gofal a chymorth

Rheoliad 5

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun iechydI11

1

Cyflwr iechyd C gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

2

Hanes iechyd C gan gynnwys, i’r graddau sy’n ymarferol, hanes iechyd teulu C.

3

Effaith iechyd a hanes iechyd C ar ei ddatblygiad.

4

Y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol C, sy’n briodol i’w anghenion, gan gynnwys—

a

gwiriadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol C, gan gynnwys iechyd deintyddol;

b

triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd a nodir (gan gynnwys iechyd corfforol ac emosiynol, ac yn enwedig iechyd meddwl) neu anghenion gofal deintyddol;

c

mesurau ataliol megis brechiadau ac imiwneiddio;

d

sgrinio am ddiffygion golwg neu glyw; ac

e

cyngor a chanllawiau ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol (gan gynnwys iechyd meddwl a gofal geneuol).

5

Unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau presennol.

6

Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C, mewn hyrwyddo iechyd C.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun addysg personolI22

1

Hanes addysgol a hanes hyfforddiant C, gan gynnwys gwybodaeth am sefydliadau addysgol a fynychwyd, a chofnod presenoldeb ac ymddygiad C, ei gyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill; ac anghenion addysgol arbennig C, os oes rhai.

2

Y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys manylion am unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig, ac unrhyw ddarpariaeth arall a wneir i ddiwallu anghenion penodol C o ran addysg neu hyfforddiant, a hyrwyddo ei gyflawniad addysgol.

3

Diddordebau hamdden C.

4

Pan fo angen gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, y ddarpariaeth a wnaed i leihau’r amharu ar yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw.

5

Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C o ran hyrwyddo cyflawniadau addysgol C a’i ddiddordebau hamdden.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Perthnasoedd teuluol a chymdeithasolI33

1

Os oes gan C frawd neu chwaer y darperir llety ar ei gyfer neu ar ei chyfer gan yr awdurdod cyfrifol neu awdurdod arall, ac nad yw’r plant wedi eu lleoli gyda’i gilydd, y trefniadau a wnaed i hyrwyddo cyswllt rhyngddynt, i’r graddau y mae hynny’n gyson â llesiant C.

2

Os yw C yn derbyn gofal gan, ond nid yng ngofal, yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989.

3

Os yw C yn blentyn yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

4

Unrhyw drefniadau eraill a wnaed i hyrwyddo a chynnal cyswllt yn unol ag adran 95 o Ddeddf 2014, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant C, rhwng C ac—

a

unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

b

unrhyw berson cysylltiedig arall.

5

Pan fo adran 98(1) o Ddeddf 2014 (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal) yn gymwys, y trefniadau a wnaed i benodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C neu, os yw adran 98(6) o’r Ddeddf honno’n gymwys (ymwelydd annibynnol heb ei benodi pan fo’r plentyn yn gwrthwynebu), y ffaith honno.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 3Materion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli

Rheoliad 10

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghynllun lleoli CI41

1

Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir llesiant C gan y person priodol.

2

Unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill gan gynnwys, os yw’n briodol—

a

y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

b

os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

c

os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989,

d

y trefniadau a wnaed ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

3

Y trefniadau a wnaed ar gyfer gofal iechyd (gan gynnwys iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a deintyddol C, gan gynnwys—

a

enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol ac ymarferydd deintyddol cofrestredig C, ac os yw’n gymwys, unrhyw ymarferydd cyffredinol neu ymarferydd deintyddol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef ar ôl ei leoli,

b

unrhyw drefniadau ar gyfer rhoi neu atal cydsyniad ar gyfer archwiliad neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol i C.

4

Y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—

a

enw a chyfeiriad unrhyw ysgol y mae C yn ddisgybl cofrestredig ynddi,

b

enw’r person dynodedig ar gyfer disgyblion sy’n derbyn gofal yn yr ysgol honno (os yw’n gymwys); enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol arall a fynychir gan C, neu unrhyw berson arall sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

c

pan fo gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, manylion am yr awdurdod addysg lleol sy’n cynnal y datganiad.

5

Y trefniadau a wnaed i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder yr ymweliadau a’r trefniadau a wnaed i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.

6

Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i’r person hwnnw ymweld ag C.

7

Yr amgylchiadau pan ganiateir terfynu’r lleoliad a symud C ymaith o ofal y person priodol yn unol â rheoliad 15.

8

Enw a manylion cyswllt y canlynol—

a

yr SAA;

b

ymwelydd annibynnol C (os penodwyd un);

c

R; a

d

os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gyda PI52

1

Cofnod o’r canlynol—

a

yr asesiad o addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys ystyriaeth o’r materion a nodir yn Atodlen 4,

b

safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall y ceisir ei safbwyntiau gan yr awdurdod cyfrifol,

c

penderfyniad yr awdurdod cyfrifol i leoli C gyda P.

2

Manylion am y cymorth a’r gwasanaethau sydd i’w darparu i P yn ystod y lleoliad.

3

Y rhwymedigaeth ar P i hysbysu’r awdurdod cyfrifol ynghylch unrhyw newid perthnasol yn yr amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw fwriad i newid cyfeiriad, unrhyw newid ar yr aelwyd lle y mae C yn byw, ac unrhyw ddigwyddiad difrifol sy’n ymwneud ag C.

4

Y rhwymedigaeth ar P i sicrhau bod unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag C neu mewn perthynas â theulu C neu unrhyw berson arall, a roddir yn gyfrinachol i P mewn cysylltiad â’r lleoliad, yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac na chaiff gwybodaeth o’r fath ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad yr awdurdod cyfrifol.

5

Yr amgylchiadau pan fydd angen cael caniatâd yr awdurdod cyfrifol ymlaen llaw er mwyn i C fyw ar aelwyd ac eithrio aelwyd P.

6

Y trefniadau ar gyfer gofyn am newid yn y cynllun lleoli.

7

Yr amgylchiadau pan gaiff y lleoliad ei derfynu yn unol â rheoliad 20(c)(ii).

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gydag F, mewn cartref plant neu mewn trefniadau eraillI63

1

Cofnod o benderfyniad yr awdurdod cyfrifol o dan reoliad 23(2).

2

Y math o lety sydd i’w ddarparu, y cyfeiriad, ac, os lleolir C mewn trefniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, enw’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol (os oes person o’r fath).

3

Pan fo—

a

gan yr awdurdod cyfrifol bryderon amddiffyn plant sy’n ymwneud ag C, neu hysbysir yr awdurdod ynghylch pryderon o’r fath, neu

b

C wedi mynd ar goll o’r lleoliad, neu o unrhyw leoliad blaenorol,

y trefniadau beunyddiol a sefydlwyd gan y person priodoli i gadw C yn ddiogel.

4

Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol a tharddiad hiliol C.

5

Pan fo C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol—

a

cyfnod parhad disgwyliedig y trefniadau a’r camau y dylid eu cymryd i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i C ddychwelyd i fyw gyda rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

b

pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, y ffaith honno.

6

Priod gyfrifoldebau’r awdurdod cyfrifol, rhieni C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C.

7

Unrhyw ddirprwyo o ran yr awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch gofal a magwraeth C gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6) (fel y bo’n briodol) i—

a

yr awdurdod cyfrifol,

b

F, ac

c

pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, y person priodol,

mewn perthynas â’r materion a nodir yn is-baragraff (8), ac yn nodi unrhyw faterion yr mae’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (6), yn ystyried y caiff C wneud penderfyniad yn eu cylch.

8

Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (7) yw—

a

triniaeth feddygol a deintyddol,

b

addysg,

c

hamdden a bywyd cartref,

d

ffydd a defodau crefyddol,

e

defnyddio cyfryngau cymdeithasol,

f

unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6).

9

Trefniadau’r awdurdod cyfrifol ar gyfer cymorth ariannol i C yn ystod y lleoliad.

10

Pan leolir C gydag F, y rhwymedigaeth ar F i gydymffurfio â thelerau’r cytundeb gofal maeth a wnaed o dan reoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu reoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 4Materion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C

Rheoliad 18

I71

Mewn cysylltiad â P—

a

gallu P i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C, i—

i

darparu ar gyfer anghenion corfforol C a gofal meddygol a deintyddol priodol,

ii

amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

iii

sicrhau bod amgylchedd y cartref yn ddiogel ar gyfer C,

iv

sicrhau y diwellir anghenion emosiynol C, a meithrinir ynddo hunan-ymdeimlad cadarnhaol, gan gynnwys unrhyw anghenion penodol sy’n tarddu o argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,

v

hyrwyddo dysgu a datblygiad deallusol C drwy annog, symbylu yn wybyddol, a hyrwyddo llwyddiant addysgol a chyfleoedd cymdeithasol,

vi

galluogi C i reoli ei emosiynau a’i ymddygiad, gan gynnwys drwy fodelu ymddygiad a dulliau priodol o ryngweithio ag eraill, a

vii

darparu amgylchedd teuluol sefydlog er mwyn galluogi C i ddatblygu a chynnal ymlyniadau diogel gyda P a phersonau eraill sy’n darparu gofal i C;

b

cyflwr iechyd P gan gynnwys—

i

iechyd corfforol P,

ii

iechyd emosiynol P,

iii

iechyd meddwl P,

iv

hanes meddygol P,

v

unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig,

vi

unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau,

a pherthnasedd neu amherthnasedd unrhyw ffactorau o’r fath o ran gallu P i ofalu am blant, a gofalu am C yn benodol;

c

perthnasoedd teuluol P a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion am—

i

enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â P ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

ii

unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C (pa un a yw’n byw ar yr un aelwyd â P ai peidio),

iii

oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

iv

unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys P;

d

hanes teuluol P, gan gynnwys—

i

manylion am blentyndod a magwraeth P, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau rhieni P neu bersonau eraill a fu’n gofalu am P,

ii

y berthynas rhwng P a’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthynas â’i gilydd,

iii

cyflawniad addysgol P ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

iv

rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

v

manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a P;

e

manylion am unrhyw droseddau y collfarnwyd P amdanynt neu y cafodd P rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

f

cyflogaeth flaenorol a phresennol P a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

g

natur y gymdogaeth y lleolir cartref P ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a P.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I82

Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (d), (f) ac (g).

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 5Materion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd person cysylltiedig i ofalu am C

Rheoliad 26

I91

Mewn cysylltiad â’r person cysylltiedig—

a

natur ac ansawdd unrhyw berthynas gyfredol ag C;

b

ei allu i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C i—

i

darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol C a sicrhau y caiff C ofal meddygol a deintyddol priodol,

ii

amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

iii

sicrhau bod y llety a’r amgylchedd cartref yn addas o ystyried oedran a lefel datblygiad C,

iv

hyrwyddo dysgu a datblygiad C, a

v

darparu amgylchedd teuluol sefydlog a fydd yn hyrwyddo ymlyniadau diogel ar gyfer C, gan gynnwys hyrwyddo cyswllt cadarnhaol gyda P a phersonau cysylltiedig eraill, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â’r ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant C;

c

cyflwr ei iechyd, gan gynnwys cyflwr presennol ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol a’i hanes meddygol, gan gynnwys unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig, camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl;

d

ei berthnasoedd teuluol a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion o’r canlynol—

i

enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â’r person cysylltiedig ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

ii

unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C,

iii

unrhyw berthynas rhwng C ac aelodau eraill o’r aelwyd,

iv

oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

v

unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys y person cysylltiedig;

e

ei hanes teuluol, gan gynnwys—

i

manylion am ei blentyndod a’i fagwraeth, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau ei rieni a phersonau eraill a fu’n gofalu amdano,

ii

y perthnasoedd rhyngddo â’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthnasaoedd â’i gilydd,

iii

ei gyflawniad addysgol ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

iv

rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

v

manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a’r person cysylltiedig;

f

manylion am unrhyw droseddau y’i collfarnwyd amdanynt neu y cafodd rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

g

ei gyflogaeth flaenorol a phresennol a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

h

natur y gymdogaeth y lleolir ei gartref ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a’r person cysylltiedig.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I102

Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (e), (f) ac (g).

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 6Cytundeb gydag asiantaeth faethu annibynnol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol

Rheoliad 29

I111

Rhaid i’r cytundeb gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

a

y gwasanaethau sydd i’w darparu i’r awdurdod cyfrifol gan y person cofrestredig,

b

y trefniadau ar gyfer dethol F gan yr awdurdod cyfrifol o blith y rhai a gymeradwyir gan y person cofrestredig,

c

gofyniad bod y person cofrestredig yn cyflwyno adroddiadau i’r awdurdod cyfrifol ar unrhyw leoliadau fel y bo’n ofynnol gan yr awdurdod cyfrifol, a

d

y trefniadau ar gyfer terfynu’r cytundeb.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I122

Pan fo’r cytundeb yn ymwneud â phlentyn penodol, rhaid iddo hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

a

manylion F,

b

manylion am unrhyw wasanaethau y mae C i’w cael, a pha un ai’r awdurdod cyfrifol neu’r person cofrestredig sydd i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

c

telerau’r cytundeb lleoli arfaethedig (gan gynnwys ynglŷn â thalu),

d

y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion ynglŷn ag C ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad,

e

gofyniad bod y person cofrestredig yn hysbysu’r awdurdod cyfrifol ar unwaith os digwydd unrhyw bryderon ynghylch y lleoliad, ac

f

pa un a ganiateir lleoli plant eraill gydag F, ac ar ba sail y caniateir hynny.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 7Materion sydd i’w hystyried cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014

Rheoliad 30

I131

Mewn cysylltiad â’r llety—

a

y cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddarperir,

b

ei gyflwr,

c

ei ddiogelwch,

d

ei leoliad,

e

y cymorth,

f

y statws tenantiaeth, ac

g

yr ymrwymiadau ariannol sy’n gysylltiedig ar gyfer C a’u fforddiadwyedd.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I142

Mewn cysylltiad ag C—

a

ei safbwyntiau ynglŷn â’r llety,

b

ei ddealltwriaeth o’i hawliau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â’r llety, a

c

ei ddealltwriaeth o’r trefniadau cyllido.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 8Ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C

Rheoliad 41

I151

Effaith unrhyw newid yn amgylchiadau C ers yr adolygiad blaenorol, yn enwedig unrhyw newid yng nghynllun gofal a chymorth C a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol, pa un a weithredwyd yn llwyddiannus y penderfyniadau a wnaed yn yr adolygiad blaenorol ai peidio, ac os na, y rhesymau am hynny.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I162

A ddylai’r awdurdod cyfrifol geisio unrhyw newid yn statws cyfreithiol C.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I173

A oes cynllun ar gyfer sefydlogrwydd i C.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I184

Y trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes angen unrhyw newidiadau yn y trefniadau er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng C a P, neu rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I195

A yw lleoliad C yn parhau i fod y mwyaf addas sydd ar gael, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y cynllun lleoli neu mewn unrhyw agweddau eraill ar y trefniadau i ddarparu llety i C cyn yr adolygiad nesaf o achos C.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I206

A yw lleoliad C yn diogelu a hyrwyddo ei lesiant, ac a oes unrhyw bryderon wedi eu codi ynglŷn â diogelu.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I217

Anghenion, cynnydd a datblygiad addysgol C, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, er mwyn diwallu anghenion penodol C a hyrwyddo cyflawniad addysgol C, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried cyngor unrhyw berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, yn enwedig y person dynodedig mewn unrhyw ysgol lle mae C yn ddisgybl cofrestredig.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I228

Diddordebau hamdden C.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I239

Adroddiad yr asesiad diweddaraf o gyflwr iechyd C, a gafwyd yn unol â rheoliad 7, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer gofal iechyd C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried y cyngor a gafwyd gan unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd ers dyddiad yr adroddiad hwnnw, yn enwedig ymarferydd cyffredinol C.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I2410

A ddiwellir anghenion C ai peidio mewn perthynas â’i hunaniaeth, ac a oes angen gwneud unrhyw newid penodol gan ystyried argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I2511

A yw’r trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 34 yn parhau i fod yn briodol, ac a yw C yn eu deall.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I2612

A oes angen gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer yr amser pan na fydd C yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I2713

Dymuniadau a theimladau C, a safbwyntiau’r SAA, ynghylch unrhyw agwedd ar yr achos, ac yn benodol unrhyw newidiadau y mae’r awdurdod cyfrifol wedi eu gwneud ers yr adolygiad diwethaf, neu’n bwriadu eu gwneud, yng nghynllun gofal a chymorth C.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I2814

Pan fo rheoliad 31(3) yn gymwys, amlder ymweliadau R.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I2915

Pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol, canfod a yw C ac F yn bwriadu gwneud trefniant byw ôl-18.

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I3016

Os yw paragraff 15 yn gymwys ac os yw C yn dymuno gwneud trefniant o’r fath ond nid yw F yn dymuno hynny, ystyried a ddylid lleoli C gyda rhiant maeth awdurdod lleol gwahanol, er mwyn hwyluso gwneud trefniant o’r fath pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I3117

Pan fo C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), pa un a yw anghenion C o ganlyniad i’r statws hwnnw yn cael eu diwallu ai peidio.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 9Materion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun llwybr

Rheoliad 51

I321

Enw cynghorydd personol C.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I332

Natur a lefel y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i C, a chan bwy.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I343

Manylion am y llety a feddiennir gan C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I354

Pan fo C yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, manylion am y cyngor a’r cymorth a ddarperir gan yr awdurdod cyfrifol i hwyluso a chynorthwyo C wrth wneud trefniant o’r fath.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I365

Y cynllun ar gyfer addysg neu hyfforddiant parhaus C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I376

Y modd y bydd yr awdurdod cyfrifol yn cynorthwyo C i gael cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I387

Y cymorth a ddarperir i alluogi C i ddatblygu a chynnal perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 9 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I398

Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd ar C eu hangen i fyw yn annibynnol.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 9 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I409

Y cymorth ariannol a ddarperir i alluogi C i ddiwallu costau llety a chostau cynnal.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 9 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I4110

Anghenion gofal iechyd C, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd corfforol, emosiynol neu feddyliol a’r modd y diwellir yr anghenion hyn pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I4211

Cynlluniau wrth gefn yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gweithredu os digwydd i’r cynllun llwybr, am unrhyw reswm, beidio â bod yn effeithiol.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 9 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 10Materion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli dan gadwad

Rheoliadau 5 a 58

I431

Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir ei lesiant gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol bod C yn preswylio ynddo neu ynddi.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I442

Unrhyw drefniadau ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C ac unrhyw berson cysylltiedig arall, gan gynnwys, os yw’n briodol—

a

y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

b

os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

c

y trefniadau ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I453

Y trefniadau a wnaed er mwyn i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder y cyfryw ymweliadau a’r trefniadau a wnaed ar gyfer rhoi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I464

Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i ymwelydd annibynnol ymweld ag C.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I475

Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer gofal iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ofal deintyddol.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I486

Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—

a

enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi a fynychwyd gan C, neu unrhyw berson arall a oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i C yn union cyn rhoi C ar remánd neu dan gadwad,

b

pan fo gan C ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, manylion yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n cynnal y datganiad.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I497

Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol, a tharddiad hiliol C, a’r trefniant a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer diwallu anghenion C ynglŷn â’i hunaniaeth.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I508

Y trefniadau a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer cynorthwyo C i ddatblygu sgiliau hunanofal.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I519

Enw a manylion cyswllt—

a

yr SAA,

b

yr ymwelydd annibynnol ar gyfer C (os penodwyd un),

c

R,

d

os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I5210

Manylion am y modd y dylai llesiant C gael ei ddiogelu’n ddigonol a’i hyrwyddo pan fo C yn peidio â bod ar remand i LlCI neu dan gadwad, ac yn benodol—

a

pa un a ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, a

b

pa un a ddylai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall o dan Ddeddf 2014, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer ei ddyletswyddau o dan Ddeddf 1989.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 10 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

I54ATODLEN 11Dirymiadau

Rheoliad 65

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Mae’r Rheoliadau a nodir yn y Tabl wedi eu dirymu i’r graddau a bennir—

Rheoliadau a ddirymir

Rhif cyfresol

Graddau’r dirymiad

Rheoliadau Cyswllt â Phlant 1991

O.S. 1991/891

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Diffinio Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991

O.S. 1991/892

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Lleoli Plant gyda Rhieni etc 1991

O.S. 1991/893

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Plant (Lleoliadau Byrdymor) (Diwygiadau Amrywiol) 1995

O.S. 1995/2015

Y Rheoliadau cyfan *

(* mae rheoliad 2 eisoes wedi ei ddirymu o ran Cymru)