Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Rhagolygol

Osgoi amharu ar addysgLL+C

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), os yw C yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yng nghyfnod allweddol pedwar(1), rhaid peidio â rhoi effaith i unrhyw benderfyniad i wneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg C, hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig.

(2Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)y bydd y ddarpariaeth addysgol a wnaed ar gyfer C yn y lleoliad yn hyrwyddo cyflawniad addysgol C ac yn gyson â chynllun addysg personol C,

(c)yr ymgynghorwyd â’r person dynodedig(2) yn yr ysgol,

(d)yr ymgynghorwyd â’r Cydgysylltydd Addysg PDG,

(e)yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac

(f)os lleolir C mewn cartref plant, yr ymgynghorwyd â gweithiwr dolen gyswllt C.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo—

(a)yr awdurdod cyfrifol yn terfynu lleoliad C yn unol â rheoliad 15(3), neu

(b)pan fo angen newid lleoliad C am unrhyw reswm arall mewn argyfwng,

ac mewn achos o’r fath rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau priodol i hyrwyddo cyflawniad addysgol C cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn paragraff (1), ond pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y gwneir trefniadau eraill ar gyfer addysg neu hyfforddiant C sy’n bodloni anghenion C ac yn gyson â chynllun addysg personol C.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 20(7) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(3), a

(b)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” yn adran 4 o Ddeddf Addysg 1996(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Diffinnir “yng nghyfnod allweddol pedwar” yn adran 91(2) o Ddeddf 2014.

(2)

Y “person dynodedig” yn achos ysgol a gynhelir yw’r aelod o’r staff a ddynodir gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 20(1) o Ddeddf 2008, ac yn yr achos hwnnw ystyr “ysgol” yw’r ystyr a roddir i “school” yn adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(4)

Hynny yw, sefydliad addysgol, y tu allan i’r sectorau addysg bellach ac uwch, ar gyfer darparu addysg gynradd a/neu addysg uwchradd.