Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), ni chaiff yr awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C ac eithrio ar ôl cynnal adolygiad o achos C yn unol â Rhan 6.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), cyn terfynu lleoliad C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)gwneud trefniadau eraill ar gyfer lletya C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014,
(b)hysbysu’r SAA,
(c)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad i derfynu’r lleoliad i’r canlynol—
(i)pob un o’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r lleoliad iddynt o dan reoliad 14,
(ii)y person y lleolwyd C gydag ef,
(iii)os lleolwyd C yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod hwnnw.
(3) Pan fo perygl y gallai niwed ddigwydd ar unwaith i C, neu er mwyn diogelu eraill rhag anaf difrifol, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C, ac yn yr amgylchiadau hynny—
(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
(b)rhaid i’r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â pharagraff (2)(a) a (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4) Os nad yw’n rhesymol ymarferol hysbysu unrhyw berson yn unol â pharagraff (2)(c), yna rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad y terfynwyd y lleoliad, o’r ffaith bod y lleoliad wedi ei derfynu.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo lleoliad C wedi ei derfynu—
(a)o dan reoliad 20(c)(ii) (amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiad),
(b)o dan reoliad 24(2) (terfynu lleoliad argyfwng),
(c)o dan reoliad 27(6), neu
(d)pan fo adran 82 o Ddeddf 2014 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety) yn gymwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 15 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)