RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad

PENNOD 1Lleoli plentyn mewn gofal gyda P

Amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiadI120

Os yw’r swyddog enwebedig yn ystyried hynny’n angenrheidiol ac yn gyson â llesiant C, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gyda P cyn cwblhau ei asesiad o dan reoliad 18 (“yr asesiad”), ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn—

a

trefnu i P gael ei gyfweld, er mwyn casglu cymaint o’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 4, y gellir ei chasglu yn rhwydd yn y cyfweliad hwnnw, ynglŷn â P a’r personau eraill 18 oed a throsodd sy’n byw ar aelwyd P,

b

sicrhau y cwblheir yr asesiad ac adolygiad o achos C yn unol â’r gofynion yn rheoliad 18 o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl lleoli C gyda P, ac

c

sicrhau y gwneir penderfyniad yn unol â rheoliad 19 ac y’i cymeradwyir o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r asesiad, ac—

i

os y penderfyniad yw cadarnhau’r lleoliad, adolygu’r cynllun lleoli ac, os yw’n briodol, ei ddiwygio, a

ii

os y penderfyniad yw peidio â chadarnhau’r lleoliad, terfynu’r lleoliad.