RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad

PENNOD 2Lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol

Cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth28.

(1)

Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—

(a)

mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson nad yw wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, ond mai’r person hwnnw yw’r darpar fabwysiadydd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu (“A”), a

(b)

y byddai lleoli C gydag A er budd pennaf C,

caiff yr awdurdod cyfrifol gymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol am gyfnod dros dro (“y cyfnod cymeradwyo dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn cydymffurfio yn gyntaf â gofynion paragraff (2).

(2)

Cyn cymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)

asesu addasrwydd A i ofalu am C fel rhiant maeth, a

(b)

ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth.

(3)

Bydd y cyfnod cymeradwyo dros dro yn dod i ben—

(a)

pan derfynir lleoliad C gydag A gan yr awdurdod cyfrifol;

(b)

pan derfynir cymeradwyaeth A fel darpar fabwysiadydd;

(c)

pan gymeradwyir A fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011;

(d)

os yw A wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cyfrifol nad yw A bellach yn dymuno cael ei gymeradwyo dros dro fel rhiant maeth mewn perthynas ag C, a bydd hynny’n cael effaith 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod cyfrifol yr hysbysiad; neu

(e)

pan leolir C ar gyfer ei fabwysiadu gydag A yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 200252.