RHAN 4Darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad

PENNOD 3Trefniadau eraill

Dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod cyfrifol wrth leoli plentyn mewn trefniadau eraillI130

Cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) (“trefniadau eraill”) o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

a

cael ei fodloni bod y llety’n addas ar gyfer C, ar ôl ystyried y materion a nodir yn Atodlen 7,

b

ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol, trefnu i C ymweld â’r llety, ac

c

hysbysu’r SAA.