RHAN 5Ymweliadau gan gynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol etc.
Amlder yr ymweliadauI131
1
Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag C yn unol â’r rheoliad hwn, lle bynnag y bo C yn byw.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
a
o fewn un wythnos ar ôl dechrau unrhyw leoliad,
b
fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad, ac
c
wedi hynny—
i
os bwriedir i’r lleoliad barhau hyd nes bo C yn 18 oed, fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis, a
ii
mewn unrhyw achos arall, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
3
Pan fo rheoliad 20 yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
a
o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
b
wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
4
Pan fo rheoliad 26 yn gymwys, neu pan fo gorchymyn gofal interim wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 38 o Ddeddf 1989 (gorchmynion interim) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
a
o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
b
wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 4 wythnos.
5
Pan fo gorchymyn gofal wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 31 o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal a goruchwylio) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
a
o fewn un wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn gofal, a
b
wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
6
Pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ond person arall sy’n gyfrifol am y trefniadau y mae C yn byw oddi tanynt am y tro (“trefniadau byw C”), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
a
o fewn un wythnos ar ôl dechrau trefniadau byw C ac o fewn un wythnos ar ôl unrhyw newid yn nhrefniadau byw C,
b
fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos am y flwyddyn gyntaf wedi hynny, ac
c
fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis mewn unrhyw flwyddyn ddilynol.
7
Yn ychwanegol at ymweliadau yn unol â pharagraffau (2) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
a
pa bryd bynnag y gofynnir iddo wneud hynny yn rhesymol gan—
i
C,
ii
pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, y person priodol, neu
iii
pan fo paragraff (5) yn gymwys, y person sy’n gyfrifol am drefniadau byw C,