xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9Cymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i blant sydd ar remánd neu dan gadwad

Addasiadau i Ran 2

57.—(1Mae Rhan 2 (trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i lety awdurdod lleol—

(a)yn rheoliad 4(3), rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly, a

(b)nid yw rheoliad 5(1)(a) yn gymwys.

(3Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—

(a)nid yw rheoliad 5(1)(c) yn gymwys, a rhaid i’r cynllun gofal a chymorth, yn hytrach gynnwys cynllun lleoli dan gadwad,

(b)yn rheoliad 6(3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi hefyd o’r cynllun gofal a chymorth i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI, ac

(c)nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys.

(4Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI—

(a)nid yw rheoliad 5 yn gymwys, ac yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad, sydd hefyd yn cynnwys manylion o safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau a ganfyddir ac a ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y cynllun lleoli dan gadwad, a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny mewn perthynas ag unrhyw newid, neu newid arfaethedig, yn y cynllun lleoli dan gadwad,

(b)nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys, ac mae rheoliad (5) yn gymwys gyda’r addasiad y rhoddir “cynllun lleoli dan gadwad” yn lle “cynllun iechyd”.