xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9Cymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i blant sydd ar remánd neu dan gadwad

Addasiadau i Ran 3

58.—(1Mae Rhan 3 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI, nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach—

(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI, baratoi cynllun ar gyfer y remánd (“y cynllun lleoli dan gadwad”) sydd—

(i)yn nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a

(ii)yn cynnwys enw a chyfeiriad y LlCI, a’r materion a bennir yn Atodlen 10.

(3Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—

(a)nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad yn unol ag is-baragraff (b);

(b)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, baratoi cynllun lleoli dan gadwad (a gaiff ei gynnwys yng nghynllun gofal a chymorth C) ar gyfer y remánd neu gadwad, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI neu dan gadwad, a rhaid i’r cynllun—

(i)nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a

(ii)cynnwys, fel y bo’n briodol, enw a chyfeiriad y carchar, LlCI, neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi a’r materion a bennir yn Atodlen 10;

(c)rhaid hysbysu’r SAA ynghylch y remánd neu gadwad.

(4Pan fo C yn dod o fewn paragraff (2) neu (3)—

(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol;

(b)rhaid i’r cynllun lleoli dan gadwad gael ei gytuno a’i lofnodi gan gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi.

(5Pan fo C ar remánd i lety awdurdod lleol, mae rheoliad 10(1) yn gymwys gyda’r addasiad fod rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly.