xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10Amrywiol

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i seibiannau byr

62.—(1Yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir ym mharagraff (3).

(2Yr amgylchiadau yw—

(a)pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol,

(b)pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi trefnu i leoli C mewn cyfres o leoliadau byrdymor gyda’r un person neu yn yr un llety (“seibiannau byr”), ac

(c)trefniant wedi ei wneud fel—

(i)na fwriedir i unrhyw un lleoliad barhau am fwy na 4 wythnos,

(ii)bod C, ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal rhiant C neu berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a

(iii)na fydd cyfanswm y seibiannau byr mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn fwy na 120 o ddiwrnodau.

(3Yr addasiadau yw—

(a)nid yw rheoliadau 5 a 10 yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r cynllun gofal a chymorth nodi’r trefniadau sydd wedi eu gwneud i ddiwallu anghenion C gan roi sylw penodol i’r canlynol—

(i)iechyd a datblygiad emosiynol ac ymddygiadol C, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw anabledd(1) a allai fod gan C,

(ii)hyrwyddo cyswllt rhwng C a’i rieni ac unrhyw berson arall nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, yn ystod unrhyw gyfnod pan leolir C,

(iii)diddordebau hamdden C, a

(iv)hyrwyddo cyflawniad addysgol C,

a rhaid i’r cynllun gynnwys enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig C, a’r wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 3, pan fo’n briodol,

(b)nid yw rheoliadau 7, 14 a 63(2)(b) yn gymwys,

(c)nid yw rheoliad 31(2) yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C ar ddiwrnodau pan fo C yn y lleoliad mewn gwirionedd, a hynny fesul ysbeidiau rheolaidd sydd i’w cytuno gyda’r SAA a rhieni C (neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C) a’u cofnodi yn y cynllun gofal a chymorth cyn dechrau’r lleoliad cyntaf, a beth bynnag—

(i)rhaid i’r ymweliad cyntaf ddigwydd o fewn y 7 diwrnod lleoli cyntaf ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny, a

(ii)rhaid i ymweliadau dilynol ddigwydd fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis, am gyhyd ag y bo’r seibiannau byr yn parhau,

(d)nid yw rheoliad 39 yn gymwys, ond yn hytrach—

(i)rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 3 mis ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, a

(ii)rhaid cynnal yr ail adolygiad ac adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.

(1)

Diffinnir “anabl” ac “anabledd” yn unol ag adran 3 o Ddeddf 2014.