Rhagolygol
Gofal iechydLL+C
7.—(1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, cyn bo C wedi ei leoli am y tro cyntaf ganddo neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn yr adolygiad cyntaf o achos C, drefnu i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig—
(a)cwblhau asesiad o gyflwr iechyd C, a gall hynny gynnwys archwiliad corfforol, a
(b)darparu adroddiad ysgrifenedig o’r asesiad, gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C,
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os cynhaliwyd asesiad o gyflwr iechyd C, o fewn y cyfnod o 3 mis yn union cyn y lleoliad, a’r awdurdod cyfrifol wedi cael adroddiad ysgrifenedig sy’n bodloni gofynion y paragraff hwnnw, a’r awdurdod cyfrifol yn fodlon na ddigwyddodd unrhyw newidiadau sylweddol yn ystod y cyfnod er pan wnaed yr asesiad hwnnw.
(3) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig adolygu cyflwr iechyd C a darparu adroddiad ysgrifenedig ar bob adolygiad gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C—
(a)o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o 6 mis cyn pumed pen-blwydd C , a
(b)o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o ddeuddeng mis ar ôl pumed pen-blwydd C.
(4) Nid yw paragraffau (1) a (3) yn gymwys os yw C yn gwrthod cydsynio i’w asesu, a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol ar gyfer hynny.
(5) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y darperir gwasanaethau gofal iechyd priodol i C, yn unol â’r cynllun iechyd, gan gynnwys—
(a)gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol, a
(b)cyngor ac arweiniad ynglŷn ag iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd.
(6) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod C—
(a)wedi cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a beth bynnag ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad; a
(b)o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig cyn gynted ag y bo’n ymarferol a beth bynnag ddim hwyrach nag 20 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.
(7) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y bo’n ymarferol, sicrhau bod C yn parhau’n gofrestredig gydag ymarferydd cyffredinol ac o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, drwy gydol y lleoliad.
(8) Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 ac nad yw paragraff (2) yn gymwys, ac na wnaed asesiad o iechyd C neu na chofrestrwyd C gydag ymarferydd cyffredinol neu na osodwyd C o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel petai’r lleoliad hwnnw wedi ei wneud ar 6 Ebrill 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)