RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yr ystyr a nodir yn adran 104(5) o’r Ddeddf;

  • mae i “carchar” (“prison”), “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”), a “mangre a gymeradwywyd” (“approved premises”) yr ystyron a roddir yn adran 188(1) o’r Ddeddf3;

  • ystyr “cynghorydd personol” (“personal adviser”) yw’r person a benodir yn unol ag adran 106 o’r Ddeddf ar gyfer person ifanc categori 1, categori 2, categori 3, neu gategori 4;

  • mae i “cyn-riant maeth” (“former foster parent”) yr ystyr a roddir yn adran 108(3) o’r Ddeddf;

  • ystyr “dan gadwad” (“detained”)—

    1. a

      mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc categori 2 a gollfarnwyd o drosedd, yw—

      1. i

        dan gadwad mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid,

      2. ii

        yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

      3. iii

        yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y plentyn fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol,

    2. b

      ond nid yw’n cynnwys remánd i lety neu fangre o’r fath4

    3. c

      mewn perthynas â pherson ifanc categori 3 neu 4, yw—

      1. i

        dan gadwad mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid,

      2. ii

        yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

      3. iii

        yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y person ifanc fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

  • mae i “lleoliad” (“placement”) yr ystyr a roddir yn adran 81(6) o’r Ddeddf;

  • mae i “person ifanc categori 2” (“category 2 young person”) yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o’r Ddeddf a rheoliad 3;

  • mae i “person ifanc categori 3” (“category 3 young person”) a “person ifanc categori 4” (“category 4 young person”) yr ystyron a roddir yn adran 104(2) o’r Ddeddf;

  • mae i “trefniant byw ôl-18” (“post-18 living arrangement”) yr ystyr a roddir yn adran 108(3) o’r Ddeddf;

Personau ifanc categori 23

1

At ddibenion adran 104(6)(a) o’r Ddeddf, mae plant sy’n dod o fewn paragraff (2) yn gategori ychwanegol o bersonau ifanc categori 2.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae plentyn yn dod o fewn y paragraff hwn—

a

os yw’r plentyn yn 16 neu 17 oed,

b

os nad yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal5, ac

c

pan gyrhaeddodd 16 oed, roedd y plentyn dan gadwad neu mewn ysbyty, ac yn union cyn ei roi dan gadwad neu ei dderbyn i ysbyty, roedd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod neu gyfnodau yr oedd eu cyfanswm yn 13 wythnos o leiaf a’r cyfnod hwnnw wedi dechrau ar ôl i’r plentyn gyrraedd 14 oed6.

3

Wrth gyfrifo’r cyfnod o 13 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan oedd y plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yng nghwrs cyfres o leoliadau byrdymor a drefnwyd ymlaen llaw, nad oedd yr un ohonynt yn hwy na 4 wythnos, a phan oedd y plentyn ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal ei riant neu berson nad oedd yn rhiant y plentyn ond a oedd â chyfrifoldeb rhiant amdano.

4

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid peidio â thrin plentyn fel person ifanc categori 2, os bu’n byw am gyfnod di-dor o chwe mis neu ragor (pa un a gychwynnodd y cyfnod hwnnw cyn ynteu ar ôl iddo beidio â derbyn gofal) gydag—

a

ei riant,

b

rhywun nad yw’n rhiant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, neu

c

os oedd y plentyn mewn gofal a gorchymyn trefniadau plentyn mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwyd yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel y person yr oedd y plentyn i fyw gydag ef,

hyd yn oed os yw’r plentyn yn dod o fewn y diffiniad o berson ifanc categori 2 yn adran 104(2) o’r Ddeddf.

5

Pan fo’r trefniadau byw a ddisgrifir ym mharagraff (4) yn diffygio, a’r plentyn yn peidio â byw gyda’r person dan sylw, rhaid trin y plentyn fel person ifanc categori 2.

6

At ddibenion paragraff (4), gorchymyn trefniadau plentyn yw gorchymyn a gyfansoddir o, neu sy’n cynnwys, trefniadau mewn perthynas ag un neu’r ddau o’r canlynol—

a

gyda phwy y bydd y plentyn yn byw, a

b

pa bryd y bydd y plentyn yn byw gydag unrhyw berson.

7

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • mae i “gorchymyn trefniadau plentyn” yr ystyr a roddir i “child arrangements order” yn adran 8(1) o Ddeddf Plant 19897; ac

  • mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” yn Neddf Iechyd Meddwl 19838