RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yr ystyr a nodir yn adran 104(5) o’r Ddeddf;

mae i “carchar” (“prison”), “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”), a “mangre a gymeradwywyd” (“approved premises”) yr ystyron a roddir yn adran 188(1) o’r Ddeddf(1);

ystyr “cynghorydd personol” (“personal adviser”) yw’r person a benodir yn unol ag adran 106 o’r Ddeddf ar gyfer person ifanc categori 1, categori 2, categori 3, neu gategori 4;

mae i “cyn-riant maeth” (“former foster parent”) yr ystyr a roddir yn adran 108(3) o’r Ddeddf;

ystyr “dan gadwad” (“detained”)—

(a)

mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc categori 2 a gollfarnwyd o drosedd, yw—

(i)

dan gadwad mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid,

(ii)

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(iii)

yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y plentyn fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol,

(b)

ond nid yw’n cynnwys remánd i lety neu fangre o’r fath(2)

(c)

mewn perthynas â pherson ifanc categori 3 neu 4, yw—

(i)

dan gadwad mewn carchar neu mewn llety cadw ieuenctid,

(ii)

yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(iii)

yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y person ifanc fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “lleoliad” (“placement”) yr ystyr a roddir yn adran 81(6) o’r Ddeddf;

mae i “person ifanc categori 2” (“category 2 young person”) yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o’r Ddeddf a rheoliad 3;

mae i “person ifanc categori 3” (“category 3 young person”) a “person ifanc categori 4” (“category 4 young person”) yr ystyron a roddir yn adran 104(2) o’r Ddeddf;

mae i “trefniant byw ôl-18” (“post-18 living arrangement”) yr ystyr a roddir yn adran 108(3) o’r Ddeddf;

Personau ifanc categori 2

3.—(1At ddibenion adran 104(6)(a) o’r Ddeddf, mae plant sy’n dod o fewn paragraff (2) yn gategori ychwanegol o bersonau ifanc categori 2.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae plentyn yn dod o fewn y paragraff hwn—

(a)os yw’r plentyn yn 16 neu 17 oed,

(b)os nad yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal(3), ac

(c)pan gyrhaeddodd 16 oed, roedd y plentyn dan gadwad neu mewn ysbyty, ac yn union cyn ei roi dan gadwad neu ei dderbyn i ysbyty, roedd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod neu gyfnodau yr oedd eu cyfanswm yn 13 wythnos o leiaf a’r cyfnod hwnnw wedi dechrau ar ôl i’r plentyn gyrraedd 14 oed(4).

(3Wrth gyfrifo’r cyfnod o 13 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan oedd y plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yng nghwrs cyfres o leoliadau byrdymor a drefnwyd ymlaen llaw, nad oedd yr un ohonynt yn hwy na 4 wythnos, a phan oedd y plentyn ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal ei riant neu berson nad oedd yn rhiant y plentyn ond a oedd â chyfrifoldeb rhiant amdano.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid peidio â thrin plentyn fel person ifanc categori 2, os bu’n byw am gyfnod di-dor o chwe mis neu ragor (pa un a gychwynnodd y cyfnod hwnnw cyn ynteu ar ôl iddo beidio â derbyn gofal) gydag—

(a)ei riant,

(b)rhywun nad yw’n rhiant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano, neu

(c)os oedd y plentyn mewn gofal a gorchymyn trefniadau plentyn mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwyd yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel y person yr oedd y plentyn i fyw gydag ef,

hyd yn oed os yw’r plentyn yn dod o fewn y diffiniad o berson ifanc categori 2 yn adran 104(2) o’r Ddeddf.

(5Pan fo’r trefniadau byw a ddisgrifir ym mharagraff (4) yn diffygio, a’r plentyn yn peidio â byw gyda’r person dan sylw, rhaid trin y plentyn fel person ifanc categori 2.

(6At ddibenion paragraff (4), gorchymyn trefniadau plentyn yw gorchymyn a gyfansoddir o, neu sy’n cynnwys, trefniadau mewn perthynas ag un neu’r ddau o’r canlynol—

(a)gyda phwy y bydd y plentyn yn byw, a

(b)pa bryd y bydd y plentyn yn byw gydag unrhyw berson.

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

mae i “gorchymyn trefniadau plentyn” yr ystyr a roddir i “child arrangements order” yn adran 8(1) o Ddeddf Plant 1989(5); ac

mae i “ysbyty” yr ystyr a roddir i “hospital” yn Neddf Iechyd Meddwl 1983(6)

(1)

Diffinnir “carchar” gan adran 188(1) o’r Ddeddf drwy gyfeirio at y diffiniad o “prison” yn adran 53(1) o Ddeddf Carchardai 1952 (p. 52); diffinnir “llety cadw ieuenctid” yn adran 188(1) o’r Ddeddf fel: (a) cartref diogel i blant; (b) canolfan hyfforddi ddiogel; (c) sefydliad troseddwyr ifanc; (d) llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant; (e) llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro drwy orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi); diffinnir “ysbyty” yn adran 197(1) o’r Ddeddf fel term sydd â’r ystyr a roddir i “hospital” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42). Ar gyfer ystyr “young offender institution” a “secure training centre” gweler adran 43(1)(aa) a (d) o Ddeddf Carchardai 1952 (p. 52).

(2)

Mae adran 104(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10) (“Deddf 2012”) yn darparu bod rhaid trin plentyn a roddir ar remánd i lety cadw ieuenctid fel pe bai’n “looked after”, sef yn derbyn gofal, gan yr awdurdod lleol (gweler adran 104(1) o Ddeddf 2012); diffinnir “youth detention accommodation” yn adran 102(1) o Ddeddf 2012.

(3)

Ar gyfer ystyr “gorchymyn gofal” gweler adran 197(3) o’r Ddeddf.

(4)

Ar gyfer ystyr “derbyn gofal” gweler adran 74 o’r Ddeddf (plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol).

(5)

1989 p. 42. Diwygiwyd adran 8(1) gan adran 12 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6).