ATODLEN 2Materion sydd i’w cynnwys yn y cynllun llwybr a’r adolygiad ohono pan fo’r person ifanc dan gadwad
1
Enw a chyfeiriad y carchar neu’r llety cadw ieuenctid.
2
Lefel a natur y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i’r person ifanc gan yr awdurdod lleol cyfrifol a chan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid.
3
Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid ar gyfer addysg a hyfforddiant y person ifanc, gan gynnwys enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi y bu’r person ifanc yn ei fynychu, neu unrhyw berson arall oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i’r person ifanc yn union cyn ei roi dan gadwad.
4
Manylion y modd y diwellir anghenion y person ifanc pan fydd yn peidio â bod dan gadwad, sef yn benodol—
a
pa un a ddarperir llety neu gymorth arall ai peidio i’r person ifanc gan yr awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, a
b
sut y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo’r person ifanc mewn perthynas ag—
i
addysg neu hyfforddiant, neu
ii
cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.
5
Trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid i gynorthwyo’r person ifanc i ddatblygu’r sgiliau ymarferol neu sgiliau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn i’r person ifanc fyw yn annibynnol.
6
Manylion am anghenion iechyd y person ifanc (gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl) a’r trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid i’w diwallu.
7
Y trefniadau a wnaed a’r cymorth sydd i’w ddarparu i alluogi’r person ifanc i ddatblygu a chynnal perthnasau teuluol a chymdeithasol priodol.
8
Manylion am hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol a tharddiad hiliol y person ifanc a’r trefniadau a wnaed gan staff y carchar neu’r llety cadw ieuenctid ar gyfer diwallu ei anghenion crefyddol, diwylliannol ac ieithyddol.