xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 2

YR ATODLENDiwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

1.  Yn rheoliad 2—

(a)yn y mannau priodol mewnosoder—

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015(1);;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014(2);;

(b)yn y diffiniad o “cais”—

(i)ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (ch), yn lle “,” rhodder “;”; a

(iii)ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—

(d)adrannau 17(4) neu 27(1) o Ddeddf 2014; neu

(dd)Deddf 2015,;

(c)yn y mannau priodol mewnosoder—

mae i “asiant gosod”, mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr â “letting agent” yn adran 84 o Ddeddf 2015;;

mae i “awdurdod pwysau a mesurau lleol” mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr â “local weights and measures authority” yn adran 69(2) o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985;;

mae i “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yr un ystyr ag yn adran 49(1) o Ddeddf 2014;;

mae i “landlord” (“landlord”), at ddibenion ceisiadau o dan adrannau 17(4) neu 27(1) o Ddeddf 2014, yr un ystyr ag yn adran 2(1) o’r Ddeddf honno;; ac

(d)yn y diffiniad o “mangre”—

(i)ym mharagraff (a) ar ôl “Deddf 2013” mewnosoder “neu Ddeddf 2015” ac ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer y gair “a”;

(ii)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder y gair “ac”; a

(iii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)mewn cais a wneir o dan Ddeddf 2015, unrhyw fangre y dylai cyhoeddusrwydd fod wedi ei roi yno i ffi’r asiant gosod y mae cais yn ymwneud â hi;.

2.  Yn rheoliad 4(1), ar ôl “Deddf 2013,” mewnosoder “Deddf 2014”.

3.  Yn rheoliad 14(1)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (b)(ii) yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (b)(ii) mewnosoder—

(c)yn achos cais a wnaed o dan Ddeddf 2014—

(i)yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un landlord;

(ii)yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un annedd; neu

(iii)yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant sydd wedi ei drwyddedu o dan adran 9 neu adran 11 o Ddeddf 2014;

(ch)yn achos cais a wnaed o dan Ddeddf 2015 yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant gosod.

4.  Yn rheoliad 40(5), ar ôl “Deddf 2013” mewnosoder “, Deddf 2014, Deddf 2015”.

5.  Ar ôl rheoliad 47, mewnosoder—

47A.    Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014

Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 2014—

(a)adran 17(4) (dirymu cofrestriad);

(b)adran 27(1) (apelau trwyddedu).

47B.    Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015

Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015.

6.  Yn rheoliad 48, yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.

7.  Yn rheoliad 49—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”; a

(b)ym mharagraff (2), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.

8.  Yn rheoliad 50(1), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.

9.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 72 mewnosoder—

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014

Ceisiadau sy’n ymwneud â dirymu cofrestriad landlord

73.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais a wneir o dan adran 17(4) o Ddeddf 2014 (apêl yn erbyn dirymu cofrestriad).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;

(b)unrhyw sylwadau a wnaed gan y landlord mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad;

(c)copi o’r hysbysiad sy’n dirymu cofrestriad y landlord a’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu; ac

(ch)unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod trwyddedu.

Ceisiadau sy’n ymwneud ag apelau trwyddedu

74.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 27(1) o Ddeddf 2014.

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded neu i wneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod, yn ôl y digwydd, a’r rhesymau dros ei benderfyniad;

(b)unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded;

(c)copi o’r hysbysiad sy’n gwneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod (ac eithrio gofyniad i gydymffurfio â chod ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru), sy’n gwrthod rhoi, sy’n diwygio neu’n dirymu’r drwydded, yn ôl y digwydd, a’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu; ac

(ch)unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod trwyddedu.

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015

Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiadau terfynol

75.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais a wneir o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015 (apêl yn erbyn cosb ariannol).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o’r hysbysiad o fwriad a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 1(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;

(b)copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan yr asiant gosod ar ôl cael yr hysbysiad o fwriad a ddyroddwyd o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;

(c)copi o’r hysbysiad terfynol a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015; ac

(ch)unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod pwysau a mesurau lleol perthnasol.