Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Yr awdurdod lleol a bennir at ddibenion adran 97(2) o Ddeddf 2014

5.—(1Mae paragraff (2) yn pennu, yn unol ag adran 97(2) o Ddeddf 2014, yr awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan adran 97 o Ddeddf 2014 neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4.

(2Pan fo plentyn yn dod o fewn categori a bennir yn—

(a)rheoliad 4(1)(a), yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal(1);

(b)rheoliad 4(1)(b), yr awdurdod lleol y lleolir ynddo’r llety cadw ieuenctid, carchar neu fangre a gymeradwywyd.

(1)

Mae adran 194 ac adran 186(2) o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ynghylch statws preswylfa arferol plentyn sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.