Cyngor a chymorth arall

9.  Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 ar gyfer rhoi cyngor priodol a chymorth arall ar gael i A, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau—

(a)bod y trefniadau—

(i)yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, a

(ii)yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol A ac unrhyw anabledd sydd gan A(1), a

(b)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, fod A yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol

(1)

Diffinnir “anabledd” yn adran 3(5) o Ddeddf 2014.