NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth drwy ddarparu llety. Caiff rheoliadau o dan adran 57 o’r Ddeddf ddarparu, pan fo awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety o fath penodedig ar gyfer person, a’r person o dan sylw wedi mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol o’r math hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion gofal a chymorth oedolion a phlant drwy ddarparu llety cartref gofal.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r amgylchiadau y mae’r gofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan y person yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r awdurdod lleol fod o dan ofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan y person.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r “amod cost ychwanegol”. Pan fo cost y llety sy’n cael ei ffafrio gan y person yn fwy na’r gost y byddai’r awdurdod lleol yn disgwyl ei thynnu fel arfer wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety addas o’r math hwnnw er mwyn diwallu anghenion y person o dan sylw, nid yw’r awdurdod lleol dan ofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety hwnnw oni chaiff yr amod cost ychwanegol ei fodloni.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol roi rhesymau mewn ysgrifen dros wrthod darparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan berson.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.