xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Pan fo—
(a)awdurdod lleol(1) yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal yn y Deyrnas Unedig;
(b)y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi mynegi ei fod yn ffafrio cartref gofal penodol; ac
(c)yr amodau yn rheoliad 3 wedi eu bodloni,
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf am ystyr “awdurdod lleol”; mae’r diffiniad wedi ei gyfyngu i awdurdodau lleol yng Nghymru.