NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau )

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud ag awdurdodau lleol yn ymrwymo i gytundebau ar daliadau gohiriedig o dan adran 68 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae rheoliad 3 yn nodi’r amgylchiadau pan fo rhaid i awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig gydag oedolyn ond mae’r gofyniad hwn yn ddarostyngedig i fodloni amodau penodedig.

Mae rheoliad 4 yn darparu na chaiff awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig oni bai ei fod yn cael sicrwydd digonol ar gyfer y taliad o’r swm gofynnol. Mae’n nodi, mewn achosion pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ar daliad gohiriedig, fod rhaid i’r sicrwydd digonol fod yn arwystl drwy gyfrwng morgais cyfreithiol am swm sydd o leiaf yn hafal i swm gofynnol yr oedolyn ac unrhyw log a chostau gweinyddol a gaiff eu trin yn yr un ffordd â swm gofynnol yr oedolyn ac sy’n gallu cael ei gofrestru fel arwystl cyfreithiol cyntaf dros yr eiddo o blaid yr awdurdod lleol yn y gofrestr tir.

Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu, os yw awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny, fod rhaid iddo gael cydsyniad ysgrifenedig i’r materion a bennir ym mharagraff (3) oddi wrth berson a chanddo fuddiant yn yr eiddo y mae’n bwriadu cael yr arwystl cyfreithiol drosto.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth o ran y swm a ohirir o dan y cytundeb. Mae rheoliad 5(1) yn darparu mai’r swm gofynnol yw’r swm a bennir neu a ddyfernir yn unol â pharagraff (2).

Mae rheoliad 5(2) yn darparu, mewn achosion pan fo’n ofynnol i’r oedolyn dalu ffioedd i awdurdod lleol am gostau ei ofal a chymorth, mai’r swm yw 100% o’r swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol o dan adran 59 o’r Ddeddf (pŵer i osod ffioedd), ac unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf (achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol), neu unrhyw swm llai y mae’r oedolyn yn gofyn am iddo gael ei ohirio. Mewn unrhyw un o’r achosion hyn, caniateir gostyngiad yn y symiau o’r swm y caniateir i’r awdurdod lleol beidio â’i ohirio o dan reoliad 6, neu yn unol â thelerau ac amodau’r cytundeb ar daliad gohiriedig.

Effaith rheoliad 6 yw darparu nad oes rhaid i awdurdod lleol ohirio swm pan fyddai’r oedolyn, ar ôl iddo dalu’r symiau sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol, yn parhau â swm mewn llaw sydd o leiaf yn hafal i’r warant isafswm briodol. Diffinnir y warant isafswm briodol yn rheoliad 6(7) a bydd yn dibynnu ar amgylchiadau’r oedolyn.

Mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn darparu y caiff awdurdod lleol gynnwys teler yn y cytundeb ar daliad gohiriedig i’w gwneud yn ofynnol i’r oedolyn dalu, neu sicrhau y telir, y symiau y mae’r awdurdod lleol, yn unol â’r rheoliad hwn, wedi penderfynu peidio â’u gohirio.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth o ran yr amser ar gyfer ad-dalu’r swm gofynnol a hawl yr oedolyn i derfynu’r cytundeb ar daliad gohiriedig.

Mae rheoliadau 9 a 10 yn gwneud darpariaeth o ran talu llog a chostau gweinyddol.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch y telerau, yr amodau a’r wybodaeth y caniateir eu cynnwys mewn cytundeb ar daliad gohiriedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.