Y swm gofynnol

5.—(1Swm gofynnol yr oedolyn yw’r swm a bennir neu a ddyfernir yn unol â pharagraff (2).

(2Y swm yw’r lleiaf o’r canlynol—

(a)100% o’r swm sy’n ddyledus gan yr oedolyn o dan adran 59 o’r Ddeddf am y ddarpariaeth o ofal a chymorth mewn cartref gofal ac o unrhyw swm y mae’n ofynnol i’r oedolyn ei dalu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf, llai unrhyw swm y mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei gyfrannu o dan reoliad 6;

(b)y cyfryw ran lai o’r swm sy’n ddyledus o dan adran 59 o’r Ddeddf, ac, yn ôl y digwydd, yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 57(2) o’r Ddeddf, y mae’r oedolyn yn gofyn am iddo gael ei ohirio, llai unrhyw swm y mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r oedolyn ei gyfrannu o dan reoliad 6;

(c)y swm a ohirir yn unol ag is-baragraffau (a) neu (b), llai unrhyw swm nad yw’r awdurdod, yn ystod y cyfnod pan fo’r cytundeb ar daliad gohiriedig mewn grym ac yn unol â thelerau ac amodau’r cytundeb ar daliad gohiriedig, yn cytuno i ohirio taliad ohono tan yr amser penodedig.