Search Legislation

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi) (Cymru) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Y penderfyniad

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), cyn gynted ag y bo modd ar ôl cael gwybodaeth a dogfennaeth ddigonol ar gyfer cynnal yr adolygiad, a beth bynnag o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl yr adeg honno, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)gwneud penderfyniad ar yr adolygiad a’r camau y bydd angen eu cymryd i’w weithredu;

(b)anfon datganiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd, sy’n nodi—

(i)y penderfyniad;

(ii)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw;

(iii)bod hawl gan y ceisydd i wneud cwyn o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014(1) os yw’n anfodlon ar y penderfyniad;

(iv)os yw ffi’r ceisydd wedi ei diwygio o ganlyniad i’r adolygiad, dylid cynnwys yn y datganiad yr wybodaeth ganlynol—

(aa)gwybodaeth am y gofal a’r cymorth y mae’r ffi yn ymwneud â hwy;

(bb)y ffi safonol am y gofal a’r cymorth;

(cc)os nad y ffi safonol yw’r ffi a osodwyd yn dilyn yr adolygiad, swm y ffi a osodwyd;

(dd)gwybodaeth am y modd y cyfrifwyd y ffi (gan gynnwys manylion unrhyw asesiad ariannol);

(2Pan fo rheoliad 13(3) yn gymwys a’r wybodaeth a’r ddogfennaeth ychwanegol heb eu darparu, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a) cyn gynted ag y bo modd, neu beth bynnag o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cael gwybodaeth a dogfennaeth ddigonol, ond heb gynnwys yr wybodaeth a’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdanynt o dan reoliad 13 ond nas darparwyd.

(3Os daw’r awdurdod lleol i’r casgliad na all gadw at y terfynau amser a bennir ym mharagraffau (1) neu (2), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo modd a beth bynnag o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (1) neu (2), ddarparu datganiad i’r ceisydd sy’n nodi—

(a)na fydd yn gallu darparu penderfyniad o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2);

(b)y rheswm pam y mae’n analluog i gydymffurfio â’r terfyn amser hwnnw;

(c)erbyn pa ddyddiad y bydd yn darparu penderfyniad; a

(d)y caiff y ceisydd wneud dewisiad i beidio â thalu’r ffi am weddill y cyfnod adolygu drwy hysbysu’r awdurdod lleol naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen.

(4Cyn gwneud penderfyniad o dan adran (1)(a), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—

(a)manylion y cais;

(b)polisi codi ffioedd cyfredol yr awdurdod lleol;

(c)Rhan 5 o’r Ddeddf neu, pan fo’n briodol, unrhyw reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf;

(d)y Rheoliadau;

(e)unrhyw Reoliadau eraill a wnaed o dan Ran 5 o’r Ddeddf a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod lleol;

(f)unrhyw God neu ganllawiau perthnasol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 145 o’r Ddeddf;

(g)incwm a threuliau’r ceisydd;

(h)os cynhaliwyd un, asesiad ariannol y ceisydd, a wnaed at y diben o wneud dyfarniad o dan adran 66 o’r Ddeddf neu at y diben o ddyfarnu ad-daliad neu gyfraniad yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf, sydd wedi arwain at y ffi sy’n destun yr adolygiad; ac

(i)unrhyw amgylchiadau, cyfredol a rhagweladwy, a allai effeithio ar allu’r ceisydd i dalu’r ffi.

(5Rhagdybir y bydd datganiad wedi ei ddarparu o dan baragraff (1) ar y dyddiad y’i dyroddir gan yr awdurdod lleol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources