RHAN >2Asesu adnoddau ariannol

Terfynau amser4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol ganiatáu 15 diwrnod gwaith neu pa bynnag gyfnod hwy y tybia sy’n rhesymol i A, ar gyfer darparu’r wybodaeth a’r dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 3(f).

2

Os yw A yn gwneud cais rhesymol am estyn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (1), gan roi rhesymau pam y mae angen yr estyniad, rhaid i’r awdurdod lleol gytuno â’r cais a hysbysu A o gyfnod yr estyniad.

3

Os bydd awdurdod lleol yn gwrthod cais am estyn y terfyn amser, rhaid iddo hysbysu A ynghylch y gwrthodiad a rhaid iddo roi’r rhesymau pam y mae’n gwrthod.