ATODLEN >1Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm

RHAN >1Symiau sydd i’w diystyru

15

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3)—

a

pan nad yw A yn preswylio gyda’i briod neu ei bartner sifil; a

b

o leiaf 50% o unrhyw bensiwn galwedigaethol A, neu o unrhyw incwm o gynllun pensiwn personol A, yn cael ei dalu i’w briod neu mewn cysylltiad â’i briod ar gyfer cynnal y priod hwnnw, neu i’w bartner sifil ar gyfer cynnal y partner sifil hwnnw,

swm sy’n hafal i 50% o’r pensiwn, pensiynau neu incwm sydd dan sylw.

2

Pan fo gan A hawl i bensiynau neu incwm y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) o fwy nag un ffynhonnell, rhaid agregu’r holl bensiynau ac incwm y mae hawl gan A i’w cael at ddibenion yr is-baragraff hwnnw.

3

Nid yw’r paragraff hwn yn cael effaith mewn cysylltiad â’r rhan o unrhyw bensiwn neu incwm y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) y mae hawl gyfreithiol gan briod neu bartner sifil A i’w chael, pa un a yw hynny o dan orchymyn llys ai peidio.