ATODLEN >1Symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm
RHAN >1Symiau sydd i’w diystyru
40
1
Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person heb bartner a chydag incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—
a
swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £5.75 neu’n llai; neu
b
£5.75 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy na £5.75.
2
Pan fo A—
a
heb bartner;
b
wedi cyrraedd 65 oed; ac
c
gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,
swm o £5.75.
3
Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person sydd â phartner ac incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—
a
swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £8.60 neu’n llai; neu
b
£8.60 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy nag £8.60.
4
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), pan fo A—
a
gyda phartner;
b
wedi—
i
cyrraedd 65 oed; neu
ii
wedi cyrraedd oedran credyd pensiwn a phartner A wedi cyrraedd 65 oed; ac
c
gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,
swm o £8.60.
5
Pan fo—
a
y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) wedi ei ddiystyru wrth asesu incwm partner A o dan y Rheoliadau hyn; neu
b
partner A yn derbyn credyd cynilion,
nid yw is-baragraff (4) yn gymwys i A.
6
At ddibenion y paragraff hwn—
a
mae gan A bartner os ystyrid bod gan A bartner at ddibenion y Rheoliadau Credyd Pensiwn;
b
mae “incwm cymhwyso” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “qualifying income” yn rheoliad 9 o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn, ac at ddibenion is-baragraffau (3) a (4) mae incwm cymhwyso A yn cynnwys unrhyw incwm cymhwyso sydd gan bartner A;
c
ystyr “gwarant isafswm safonol” (“standard minimum guarantee”) yw, at ddibenion—
i
is-baragraffau (1) a (2), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn; a
ii
is-baragraffau (3) a (4), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(a) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn.