ATODLEN >2Cyfalaf sydd i’w ddiystyru

4

1

Gwerth unrhyw fangre—

a

a ddiystyrid o dan baragraff 2 neu 4(b) o Atodlen 10 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (mangre a gaffaelwyd ar gyfer ei meddiannu, a mangre a feddiennir gan gyn-bartner) ond fel pe rhoddid, ym mhob darpariaeth, y geiriau “his main or only home” yn lle “his home”; neu

b

a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A, a fu’n meddiannu’r fangre fel ei brif neu ei unig gartref ers rhywdro cyn y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

2

Caiff awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre a feddiennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol fel ei brif neu ei unig gartref gan berthynas cymwys i A os meddiannwyd y fangre gan y perthynas cymwys ar ôl y dyddiad y darparwyd neu y sicrhawyd, am y tro cyntaf, lety i A mewn cartref gofal yn unol â’r Ddeddf.

3

Gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos pan fo’r awdurdod lleol wedi diystyru gwerth y fangre o dan is-baragraff (1)(b) neu (2) a naill ai bu farw’r perthynas hwnnw neu nad yw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd bod llety wedi ei ddarparu neu ei sicrhau iddo mewn cartref gofal.

4

Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwerth unrhyw fangre am gyfnod o 12 wythnos os oedd y fangre wedi ei meddiannu yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan berthynas cymwys i A fel ei brif neu ei unig gartref ac nad yw’r perthynas hwnnw bellach yn meddiannu’r fangre oherwydd newid annisgwyl yn ei amgylchiadau.

5

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “perthynas cymwys” (“qualifying relative”) yw—

    1. a

      partner A;

    2. b

      aelod arall o deulu A neu berthynas i A sy’n 60 oed neu’n hŷn neu sy’n analluog; neu

    3. c

      plentyn sydd o dan 18 oed;

  • mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “child” yn adran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu 198737.